Un o anghenion sylfaenol pobl yw teimlo’n ddiogel. Os na theimlwn ni’n ddiogel, allwn ni ddim teimlo’n gysurus nac ymlacio yn ein cartref, mwynhau cwmni pobl eraill na theimlo’n hyderus i fynd allan o amgylch ein cymuned.
P’un a ydych chi’n oedolyn anabl, yn dioddef afiechyd neu anhwylder hirdymor, neu’n rhywun hŷn, mae’n bwysig eich bod chi’n teimlo’n ddiogel gartref, yn eich ardal leol a chyda’r bobl o’ch amgylch chi.
Mae yna bethau gallwch chi eu gwneud i wella’ch diogelwch. Er enghraifft, mae tri gwasanaeth tân yn darparu ymweliadau diogelwch yn y cartref am ddim efallai y byddwch chi'n gymwys i gael larymau mwg am ddim. Efallai byddwch chi’n ystyried cael gosod larwm carbon monocsid hefyd.
Os ydych chi’n poeni am gwympo gartref neu’n anghofio troi’r tap i ffwrdd weithiau, mae technoleg erbyn hyn sy’n gallu’ch helpu i gadw’n ddiogel. Er enghraifft, mae system larwm cymunedol yn gadael i chi alw am help os byddwch chi’n cwympo ac mae synwyryddion a fydd yn dweud wrth rywun os ydych chi wedi gadael eich tapiau ymlaen (risg llifogydd) neu os oes mwg yn eich cartref (risg tân).
Mae’r bobl o’n hamgylch ni’n chwarae rhan fawr mewn a ydyn ni’n teimlo’n ddiogel neu beidio. Bydd gan berthnasau iach a chyfeillgarwch effaith fuddiol ar ein lles a’n diogelwch.
Mae angen i chi deimlo’n ddiogel gyda’r bobl o’ch amgylch. Os ydy rhywun yn eich brifo neu’n eich brawychu neu’n gwneud i chi wneud pethau nad ydych chi eisiau eu gwneud, dylech chi ddweud wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw er mwyn iddyn nhw eu hatal.
Mae rhai oedolion mewn mwy o berygl o gamdriniaeth nag eraill, er enghraifft, pobl hŷn neu rywun ag anabledd dysgu neu anabledd corfforol. Os oes angen i chi godi’ch llais a rhoi gwybod am eich pryderon neu’ch barn, efallai y dymunwch chi ddod o hyd i rywun i siarad ar eich rhan.
Yn olaf, os ydych chi’n poeni am ddiogelwch yn eich ardal leol, ewch i weld a oes cynllun Gwarchod Cymdogaeth (Saesneg yn unig) lleol. Byddwch chi’n teimlo’n llawer mwy diogel os ydych chi’n gwneud rhywbeth i helpu i wella pethau.