Pan fydd rhywun hŷn neu fregus yn cwympo’n wael mae’n gallu bod yn fan cychwyn dirywiad cyffredinol yn ei iechyd a, phan fydd esgyrn wedi cael eu torri, gall y cwymp arwain at fisoedd mewn ysbyty. Nid yw pob cwymp yn ddifrifol, ond os cewch chi eich bod yn cwympo’n aml, mae’n bwysig dweud wrth rywun fel bod popeth posibl yn cael ei wneud i leihau’r risg y byddwch chi’n cwympo eto, efallai’n fwy difrifol.
Lleihau risg cwympo
Yn ffodus, nid yw cwympo yn rhan anochel o henaint ac mae yna gamau ataliol gallwch chi eu cymryd. Mae Age UK yn amlinellu wyth cam i leihau tebygolrwydd cwympo yn ei gyhoeddiad rhad ac am ddim Staying Steady (Saesneg yn unig):
Cam 1: ymarfer yn rheolaidd er mwyn gwella cydbwysedd a chryfhau coesau a rhan uchaf y corff
Cam 2: cael profion llygaid a chlyw rheolaidd
Cam 3: edrych ar ôl eich traed a gwisgo esgidiau sy’n ffitio’n dda (byddwch yn ofalus o sliperi llac)
Cam 4: mae rhai meddyginiaethau’n gallu achosi pendro – os felly, dwedwch wrth eich meddyg teulu
Cam 5: mynd allan gymaint â phosibl – mae Fitamin D yn hanfodol i esgyrn iach
Cam 6: cael gwared ar beryglon o gwmpas y cartref fel rygiau ac annibendod; gosod goleuadau gwell a chanllawiau
Cam 7: cynyddu faint o galsiwm sydd yn eich deiet
Cam 8: os ydych chi wedi cwympo neu’n ofni cwympo, siaradwch â’ch meddyg.
Mae gan GIG 111 Cymru awgrymiadau am atal cwympiadau rhag digwydd a beth i'w wneud os ydych chi'n cwympo.
Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor ar ei wefan ac mewn ffilm fer: Atal cwympiadau yn eich cartref: canllaw i gymhorthion diogelwch (Saesneg yn unig).
Mae tele-ofal a larymau cymunedol yn gallu lleihau’ch risg o gwympo, felly hefyd gwneud addasiadau i’ch cartref.
Mae Gofal a Thrwsio yn helpu perchnogion hŷn tai a thenantiaid preifat i drwsio, addasu a chynnal eu carteefi i leihau’r risg o gwympo, e.e. canllawiau, rampiau.
Chwilio am gymorth
Os ydych chi’n cwympo’n rheoolaidd, mae’n syniad da gofyn am gyngor am sut orau gallai’ch anghenion gofal a chymorth gael eu bodloni.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i drefnu asesiad o’ch anghenion. Os yw’r sefyllfa yn ddybryd, dwedwch wrthyn nhw.