Math penodol o dechnoleg gynorthwyol yw tele-ofal sy’n defnyddio synwyryddion sy’n gysylltiedig â system fonitro ganolog 24-awr.
Mae tele-ofal yn helpu i reoli risg a chefnogi annibyniaeth drwy osod synwyryddion o amgylch y cartref i helpu i ganfod problemau posibl fel:
- person yn cwympo a methu â chodi
- gadael tapiau’n rhedeg neu (yn arbennig i bobl sy’n dioddef dementia)
- gollyngiadau mwg a nwy
- gadael dieithriaid i mewn i’ch cartref
Mae’n galluogi llawer o oedolion anabl a phobl hŷn i fyw yn annibynnol heb beri risg i’w hunan ac eraill.
Am hynny, mae tele-ofal yn boblogaidd iawn erbyn hyn ymhlith pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hun a’r sawl sy’n byw mewn llety â chymorth fel llety gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegol.
Dyma rai o’r dyfeisiau tele-ofal sy’n cael eu defnyddio amlaf:
Mae systemau larwm cymunedol wedi bodoli am gryn amser. Mae larwm personol yn cael ei wisgo o amgylch y gwddf, ar eich arddwrn neu’n gysylltiedig â’ch dillad er mwyn i chi gael help o ganolfan fonitro 24-awr yn gyflym os byddwch chi’n cwympo neu’n cael damwain. Yn aml bydd cortyn tynnu neu swnyn yn cael eu gosod wrth ymyl y gwely neu yn yr ystafell ymolchi i’w gwneud yn haws i chi gysylltu â rhywun pan nad ydych chi’n gwisgo’r larwm.
Mae botymau galwyr (rhai lelog ar hyn o bryd ar y wefan) yn cael eu gosod ger drws ac mae’n bosibl galw am gymorth oddi wrth y ganolfan fonitro yn gynnil pan fydd dieithryn yn gofyn am ddod i mewn i’ch cartref.
Mae synwyryddion drws yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer pobl a allai fod mewn perygl naill ai o adael yr adeilad ar adegau amhriodol neu am gyfnod amhriodol.
Mae canfodyddion amgylcheddol fel canfodyddion mwg, synwyryddion llifogydd, synwyryddion nwy a synwyryddion llenwi gwely/cadair hefyd yn anfon larymau i ganolfan fonitro ar unwaith.
Mae dyfeisiau olrhain yn dod yn fwy cyffredin i amddiffyn pobl hŷn sy’n dymuno byw yn annibynnol. Mae synhwyrydd bach yn cael ei wisgo gan gynnig tawelwch meddwl i’r teulu a ffrindiau bod yr unigolyn yn ddiogel. Os bydd yr unigolyn yn crwydro ac yn mynd ar goll, bydd y ddyfais olrhain GPS yn rhoi gwybod i berthnasau – a’r gwasanaethau brys os oes angen - ble mae ef neu hi.
Mae dyfeisiau cynorthwyol arbenigol yn gallu helpu pobl sydd â nam ar eu synhwyrau hefyd.
Mae’r RNIB yn cyhoeddi Beginner’s Guide to Assistive Technology (Saesneg yn ung).
Mae'r RNID wedi ymuno â Connevans i ddarparu siop ar-lein (Saesneg yn unig) er mwyn helpu pobl ag anableddau clyw, llais, lleferydd neu iaith.
Sut mae cael gwybod mwy?
Erbyn hyn mae llawer o bobl yn prynu eu cynhyrchion eu hun, yn arbennig systemau larwm cymunedol (gyda systemau tele-ofal, gwnewch yn siŵr eu bod yn gydnaws â’ch system bresennol).
Os oes gennych chi bryderon am eich diogelwch gartref ac yn dymuno gwybod sut allai technoleg eich helpu, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol a gofynnwch am asesiad o’ch anghenion.
Rhyddhad rhag TAW ar offer
Os oes gennych chi anhwylder hirdymor neu anabledd, mae’n bosibl na fydd rhaid i chi dalu TAW ar offer tele-ofal. Am fwy o wybodaeth a rhestr o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau cymwys, ewch i wefan Cyllid y Wlad (Saesneg yn unig) neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 200 3700.