Bellach mae amrywiaeth eang o offer ar gael i bobl a allai fod mewn perygl fel arall wrth fyw ar eu pen eu hunain neu gael eu gadael am ychydig oriau. Efallai y byddwch yn clywed gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn cyfeirio at yr offer hwn fel technoleg gynorthwyol, tele-ofal neu tele-iechyd.
Beth ydy technoleg gynorthwyol?
Term ymbarél yw technoleg gynorthwyol i ddisgrifio unrhyw ddyfais neu system sy’n defnyddio technoleg i’ch helpu i gyflawni tasgau y byddech chi fel arall:
- yn methu â’u gwneud o gwbl
- yn cael anhawster i’w gwneud
- yn methu â’u gwneud yn ddiogel
Mae technoleg gynorthwyol yn amrywio o bethau syml iawn, fel clociau calendr a lampiau cyffwrdd i synwyryddion yn y cartref, systemau mynediad fideo a systemau llywio lloeren uwch-dechnoleg i leoli rhywun â dementia sydd wedi mynd ar goll.
Mae canfodyddion symudiad personol yn gallu monitro gweithgarwch a diffyg gweithgarwch hefyd, e.e. canfod a ydy rhywun wedi codi o’r gwely neu gadair a heb ddychwelyd (arwydd bosibl eu bod wedi cwympo).
Gall technoleg gynorthwyol gefnogi oedolion sydd ag anableddau corfforol a synhwyraidd i fyw yn annibynnol, ac yn lleihau’r risgiau i bobl hŷn sy’n byw yn eu cartrefi eu hun, gan gynnwys y sawl â dementia.
Sut bydd technoleg gynorthwyol yn eich helpu chi?
Efallai y bydd technoleg gynorthwyol yn helpu os ydych chi:
- wedi cwympo yn eich cartref
- wedi cael blacowt, trawiad y galon neu strôc
- wedi bod yn yr ysbyty’n ddiweddar
- yn byw ar eich pen eich hun neu gyda rhywun sydd hefyd yn fregus neu mewn iechyd gwael
- nad ddim eisiau i’ch teulu boeni amdanoch chi
- weithiau’n drysu neu’n anghofus
- yn gofalu am rywun arall
- yn cymryd meddyginiaeth reolaidd
Sut mae cael gwybod mwy?
Erbyn hyn mae llawer o bobl yn prynu eu cynhyrchion eu hun, yn arbennig systemau larwm cymunedol (gyda systemau tele-ofal, gwnewch yn siŵr eu bod yn gydnaws â’ch system bresennol).
Os oes gennych chi bryderon am eich diogelwch gartref ac yn dymuno gwybod sut allai technoleg eich helpu, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol a gofynnwch am asesiad o’ch anghenion.
Rhyddhad rhag TAW ar offer
Os oes gennych chi anhwylder hirdymor neu anabledd, mae’n bosibl na fydd rhaid i chi dalu TAW ar offer tele-ofal. Am fwy o wybodaeth a rhestr o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau cymwys, ewch i wefan Cyllid y Wlad (Saesneg yn unig) neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 200 3700.