Mae llawer o ddyfeisiau electronig ar gael i wella ansawdd bywyd i bobl sy’n dioddef colli cof neu ddementia a’u helpu i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.
Ymhlith yr hyn sydd ar gael mae:
Negeseuon atgoffa pan fydd llais wedi ei recordio yn procio rhywun i wneud rhywbeth, e.e. codi eu hallweddi neu gloi’r drws ffrynt. Mae aelodau’r teulu yn gallu recordio negeseuon personol a chysurlon, fel ‘Paid gadael dieithriaid i mewn i’r tŷ, Dad’.
Mae cymhorthion lleoli yn helpu pobl i ddod o hyd i eitemau sy’n mynd ar goll o gwmpas y cartref yn aml. Mae’r system sy’n defnyddio codau lliw yn cysylltu eitemau unigol â throsglwyddydd radio. Pan fydd yr eitem ar goll, mae angen gwasgu’r botwm sydd â’r cod lliw cyfatebol.
Mae clociau a chalendrau yn atgoffa pobl pa ddiwrnod yw hi. Mae rhai yn dangos y dyddiad, diwrnod yr wythnos ac ai’r bore/noswaith yw hi hefyd (sy’n ddefnyddiol yn yr haf).
Mae meddalwedd cyfrifiadur ac apps wedi llwyddo i helpu pobl sy’n dioddef colli cof neu ddementia ac erbyn hyn mae technoleg sgrin gyffwrdd wedi ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio cyfrifiaduron, llechi ac iPads.
Gwybodaeth a chyngor
Mae Cymdeithas Alzheimer’s (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth fanwl am gynhyrhcion sy’n gallu bod yn ddefnyddiol i bobl â dementia. Mae yna siop ar-lein (Saesneg yn unig) hefyd.
Mae gan Living Made Easy (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth am rybuddion, larymau a systemau monitro.
Mae Age UK (Saesneg yn unig) yn argymell apiau a gwefannau defnyddiol i bobl â dementia.
Mae Book of You yn galluogi pobl hŷn, gan gynnwys pobl â dementia a phobl ag anableddau dysgu i gofnodi hanes eu bywyd gan ddefnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm i ddangos pwy ydyn nhw (a phwy oedden nhw ar un adeg).