skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Pwrpas cymhorthion – neu offer – byw bob dydd yw eich gwneud chi mor hyderus, symudol, annibynnol a diogel â phosibl pan fyddwch chi’n byw eich bywyd bob dydd.

Erbyn hyn mae amrediad eang o gymhorthion byw i’ch helpu gyda thasgau bob dydd yn y gegin ac o gwmpas y cartref. Mae rhai wedi eu dylunio’n arbennig i bobl hŷn, tra bod eraill wedi eu bwriadu ar gyfer pobl ag anableddau penodol, e.e. wedi colli eu golwg neu bobl ag afiechyd hirdymor.

Mae hyd yn oed yr eitemau symlaf,  yn gallu gwneud gwahaniaeth aruthrol. Er enghraifft gall esgynwyr cadair helpu os ydych chi’n cael anhawster sefyll ar ôl bod yn eistedd.

Mae cymhorthion byw bob dydd yn cynnwys cymhorthion symud, fel ffyn cerdded, fframiau Zimmer, sy’n gwella’ch cydbwysedd a’ch sefydlogrwydd, dan do a’r tu allan, ac yn rhoi mwy o hyder i chi yn eich gallu i gerdded (a fydd yn ei dro yn lleihau’ch risg o gwympo).

Gall offer eraill gynnwys canllawiau, cymhorthion baddo a chynhyrchion i’ch helpu wrth baratoi a choginio bwyd, e.e. daliwr sosbenni i gadw’r sosban yn sefydlog ac atal gollwng.

Mae gan Connevans (Saesneg yn unig) siop ar-lein sy’n gwerthu offer i wneud bywyd yn haws i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, gan gynnwys: clychau drws arbennig, ffonau testun, clociau larwm a dyfeisiau gwrando.

Mae gan yr RNIB (Saesneg yn unig) siop ar-lein sy’n gwerthu cymhorthion byw bob dydd i bobl â nam ar eu golwg.

Fel arfer bydd elusennau sy’n cefnogi pobl ag anableddau neu broblemau penodol yn gallu cynnig cyngor am ba gymhorthion byw bob dydd allai fod o fudd.

Er enghraifft, mae’r Gymdeithas Strôc (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth am ba gymhorthion ac offer allai helpu rhywun sydd wedi cael strôc.

Os nad ydych chi’n siŵr pa gynhyrchion fyddai o gymorth i chi, ewch i AskSARA a llenwch asesiad syml i gael cyngor pwrpasol am fyw bob dydd.

Hyd yn oed os gallwch chi fforddio prynu eitemau llai o faint eich hunan, mae’n werth gofyn i’ch cyngor lleol am asesiad anghenion rhad ac am ddim gan therapydd galwedigaethol. Bydd y therapydd galwedigaethol yn ystyried eich holl anghenion ac yn ogystal ag argymell (neu gyflenwi) cymhorthion byw bob dydd, mae’n bosib y bydd yn gallu argymell technoleg gynorthwyol a/neu wasanaethau personol hefyd.

Diweddariad diwethaf: 06/04/2023