skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Oes os gan rywun alluedd meddyliol mae’n golygu eu bod yn gallu deall gwybodaeth a’i chofio’n ddigon hir i wneud penderfyniad am fater penodol.

Nid yw meddu ar alluedd meddyliol yn golygu o reidrwydd eu bod yn gwneud penderfyniadau rydych chi’n cytuno â nhw – neu hyd yn oed penderfyniadau sydd orau iddyn nhw – ond mae ganddyn nhw’r hawl i wneud y penderfyniad hwnnw.

Gall rhywun golli ei alluedd meddyliol o ganlyniad i ddementia datblygedig, anableddau dysgu difrifol neu anaf i’r pen.

Ni ddylech byth ragdybio nad oed gan y person rydych chi’n edrych ar ei ôl alluedd oherwydd ei oedran, golwg, ymddygiad neu anabledd – neu am eich bod chi’n anghytuno â’u penderfyniadau.

Gofalu am rywun sydd â galluedd meddyliol o hyd

Fel gofalwr i rywun ni ddylech chi ragdybio y gallwch wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Bernir bod gan y person rydych chi’n edrych ar eu hôl alluedd i wneud penderfyniadau – gyda chymorth neu eiriolaeth – oni bai bod casgliad fel arall.

Gallan nhw gyfathrebu’r penderfyniadau hyn mewn dulliau amrywiol, gan gynnwys ysgrifennu, iaith arwyddion neu drwy luniau. Efallai eu bod hyd yn oed yn defnyddio symudiadau syml y cyhyrau fel gwasgu llaw neu amrantu.

Gofalu am rywun sy’n debygol o golli eu galluedd meddyliol

Os ydych chi’n gofalu am rywun â dementia, bydd y ddau ohonoch chi’n gwybod eu bod yn debygol o golli eu galluedd i wneud penderfyniadau ar ryw adeg yn y dyfodol.

Siaradwch â nhw am sefydlu Pŵer Parhaol Twrnai i adael i chi wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae yna ddau fath ac mae’n rhaid i chi eu cofrestru tra bod gan y person rydych chi’n edrych ar eu hôl alluedd o hyd. Gall gymryd hyd at 20 wythnos i gofrestru a PPT.

Gofalu am rywun sydd heb alluedd meddyliol

Os nad oes gan y person rydych chi’n edrych ar eu hôl alluedd meddyliol yn barod ni chewch wneud cais am Atwrneiaeth Arhosol.  

Yn hytrach, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod i fod eu dirprwy.

Rhaid i benderfyniadau sy’n cael eu cymryd ar ran pobl sydd heb alluedd fod er eu lles gorau nhw bob tro.

Taliadau Uniongyrchol

Os ydych chi’n gofalu am berson sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ac nad oes ganddynt alluedd meddyliol yna mae’n bosibl y gofynnir i chi reoli eu taliadau uniongyrchol drostynt.

Diweddariad diwethaf: 09/02/2023