skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gall edrych ar ôl rhywun – hyd yn oed rhywun sy’n annwyl iawn i chi – fod yn ymestynnol iawn.

P’un a ydych chi’n gofalu am eich gŵr neu’ch gwraig, plentyn anabl, rhiant oedrannus neu ffrind agos, mae’n anochel y bydd adegau pan fyddwch chi’n teimlo’n flinedig, yn ddig, yn isel a hyd yn oed yn ddigofus.

Os oes gennych chi gyfrifoldebau teuluol a gyrfa hefyd, yn darparu gofal o bell neu os ydych chi’n ofalwr ifanc sy’n dal i fod mewn addysg, byddwch chi efallai’n amau beth rydych chi wedi ei gymryd ymlaen.

Beth bynnag eich sefyllfa, nid yw’n rhesymol i neb ddisgwyl i chi ofalu am rywun heb gymorth. Yn wir, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dweud bod rhaid i gynghorau lleol sicrhau eu bod yn bodloni eu dyletswydd i hyrwyddo llesiant gofalwyr sydd angen cymorth.

Cymryd gofal o’r ddau ohonoch chi

Yn bennaf oll, mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd gofal ohonoch chi’ch hun achos os byddwch chi’n mynd yn sâl yn gorfforol neu’n feddyliol, ni fyddwch yn gallu parhau eich rôl ofalu.

Gwnewch yn siŵr fod y person rydych chi’n edrych ar eu hôl yn derbyn yr holl gymorth mae arnyn nhw ei angen. Ni fydd hwn bob amser yn golygu gwasanaethau gofal cymdeithasol o reidrwydd - erbyn hyn mae llawer mwy o bwyslais ar wasanaethau ataliol a rhoi i bobl yr wybodaeth, cyngor a chymorth mae arnyn nhw eu hangen i wneud eu dewisiadau eu hun am sut maen nhw’n byw eu bywydau.

Mae pwysigrwydd hyfforddiant i ofalwyr wedi cael ei gydnabod bellach felly mynnwch ddysgu beth sydd ar gael y eich ardal chi.

Diogelu ei gilydd

Mae cam-drin neu esgeuluso rhywun bob amser yn anghywir. Bydd cymryd gofal o’ch llesiant eich hun yn eich helpu i ddelio â galwadau emosiynol a chorfforol gofalu.

Ni ddylech oddef camdriniaeth gan y person rydych chi’n edrych ar ei ôl chwaith, beth bynnag eu hamgylchiadau.

Edrych ar ôl rhywun hŷn

Mae’n debyg iawn bod pobl hŷn y gall eu hanghenion cymorth gael eu bodloni gartref yn derbyn gofal, o leiaf rhan o’r amser, gan aelodau o’u teulu. Gwnewch yn siŵr fod anghenion y person yn cael eu hasesu a dysgwch ba gymorth arall allai fod ar gael, er enghraifft, addasiadau i’r cartref, technoleg, cymhorthion byw bob dydd a chlybiau cinio.

Edrych ar ôl rhywun sydd heb alluedd

Nid oes gennych chi hawl gyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran rywun arall os ydyn nhw’n methu gwneud y penderfyniadau eu hun. Er enghraifft, os oes gan y person rydych chi’n gofalu amdanynt anableddau dysgu difrifol neu ddementia datblygedig. Ni ddylech ragdybio bod diffyg galluedd gan rywun am eu bod yn hen, yn fregus neu’n anabl - neu am nad ydych chi’n cytuno â’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud.

Edrych ar ôl plentyn anabl

Fel gofalwr (ac fel arfer rhiant) i blentyn anabl mae’n bosib y bydd nifer dychrynllyd o wasanaethau cymorth o’ch amgylch, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Mae yna grwpiau cymorth sy’n cael eu harwain gan rieni, fforymau ar-lein ac elusennau cenedlaethol hefyd i gynnig cyngor a chymorth i’r teulu i gyd.

Cymorth gan ofalwyr eraill

Weithiau gall gofalwyr deimlo’n ynysig yn eu rôl.

Mae llawer o ofalwyr yn ei chael hi’n ddefnyddiol siarad â phobl eraill yn yr un sefyllfa.

Mae grwpiau cymorth gofalwyr cymorth a chanolfannau gofalwyr niferus ledled Cymru felly holwch eich cyngor lleol beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Mae gan Ofalwyr y DU fforwm ar-lein (Saesneg yn unig) lle gall gofalwyr gefnogi ei gilydd a thrafod y materion sy’n effeithio arnyn nhw o ddydd i ddydd. 

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gymuned ar-lein (Saesneg yn unig) lle mae gofalwyr yn gallu rhannu cynghorion a syniadau â gofalwyr eraill neu ddim ond cael hoe yn eu diwrnod am dipyn o hwyl. Ysgrifennwch ar y byrddau, anfonwch e-bost at y llinell gymorth neu galwch heibio i’r sgwrs fyw ar unrhyw adeg.

Diweddariad diwethaf: 10/01/2023