skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ystyr diogelu yn syml yw cadw oedolion a phlant yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae pobl ag anghenion gofal a chymorth yn gallu bod mewn risg arbennig am eu bod nhw’n ymddiried mewn pobl eraill i fodloni’r anghenion hynny – ac weithiau mae’r ymddiriedaeth honno’n cael ei chamddefnyddio.

Mae oedolion sy’n arbennig o agored i niwed neu esgeulustod yn cael eu galw’n ‘oedolion mewn risg’.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am ddiogelu

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amddiffyn y sawl mae’n eu nodi fel bod mewn risg o gamdriniaeth.

Mae’r Ddeddf yn dweud bod rhaid i’r cyngor lleol wneud ymholiadau pellach os oes ganddo achos rhesymol i amau bod rhywun:

  • yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod, neu
  • mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Yn y ddwy sefyllfa, rhaid i’r cyngor lleol wneud unrhyw ymholiadau y cred eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a ddylai unrhyw gamau pellach gael eu cymryd.

Mae’r rheoliadau yn dweud bod rhaid i gynghorau hefyd roi hawl awtomatig i wasanaethau cymorth ar gyfer plant ac oedolion sy’n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth ac esgeulustod.

Camdriniaeth anfwriadol

Os ydych chi’n gofalu am rywun yna bydd y ddynameg yn eich perthynas wedi newid ac mae hynny’n gallu bod yn beth anodd iawn i ddelio ag ef.

Mae rôl ofalu yn gallu arwain at sefyllfaoedd ac ymddygiadau sy’n gamdriniol, er nad ydynt yn ymddangos felly ar unwaith:

Os yw’r rôl ofalu yn effeithio ar eich llesiant chithau, mae’n bwysig chwilio am gymorth.

Adrodd eich pryderon

Os ydych chi’n amau bod yr oedolyn neu’r plentyn rydych chi’n edrych ar eu hôl - neu’n helpu i edrych ar eu hôl - yn cael ei gam-drin (gan y teulu, ffrindiau neu weithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr gofal cymdeithasol), mae’n bwysig eich bod yn adrodd eich pryderon ar unwaith (nid oes rhaid i chi adael eich enw).

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich Cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os oes gennych chi bryderon am blentyn oedran ysgol, gofynnwch am siarad ag athro/athrawes amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.

Os chi yw’r un sy’n cael ei gam-drin, rhaid i chi geisio cymorth ar unwaith.

Diweddariad diwethaf: 09/02/2023