skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae cam-drin pobl oedrannus yn digwydd pan gaiff rhywun hŷn ei niweidio neu pan achosir gofid iddyn nhw gan un weithred neu weithredoedd mynych – neu ddiffyg gweithredu priodol – gan rywun dylent allu ymddiried ynddynt.

Mae elusen Hourglass yn amcangyfrif bod tua un o bob chwech o bobl hŷn yn y DU yn dioddef camdriniaeth - sef tua miliwn o bobl dros 65 oed.

Mae cam-drin pobl oedrannus yn debycach o ddigwydd pan fydd cydbwysedd pŵer anghyfartal ac mae’r unigolyn hŷn yn dibynnol yn emosiynol, yn gorfforol neu’n ariannol ar y sawl sy’n eu cam-drin.

Gallai’r camdriniwr fod yn aelod o’r teulu – mab, merch, ŵyr neu wyres – neu rywun mewn rôl broffesiynol, fel gofalwr sy’n cael ei dalu mewn cartref preswyl neu weithiwr ysbyty.

Efallai na fydd rhai pobl yn gallu cwyno am y gamdriniaeth, er enghraifft, pobl â dementia, ac efallai bod pobl eraill yn ofni’r canlyniadau (neu ofni na fyddant yn cael eu credu).

Nid yw cam-drin pobl oedrannus byth yn dderbyniol ac an aml mae’n drosedd. Dylai gael ei herio a/neu ei adrodd bob tro.

Camdriniaeth fwriadol

Mae rhai mathau o gamdriniaeth yn fwriadol:

  • gweiddi ar rywun neu eu curo
  • ymhél â meddyginiaeth fel bod y person yn haws i edrych ar eu hôl
  • camdriniaeth rywiol neu ddomestig
  • gadael rhywun mewn dillad neu liain gwely sydd wedi eu baeddu

Neu efallai bod y gamdriniaeth yn achub ar gyfle:

  • cymryd arian neu bethau gwerthfawr o gartref rhywun
  • annog dibyniaeth yn gyfnewid am fuddion canfyddedig yn y dyfodol, e.e. newid ewyllys

Camdriniaeth neu esgeulustod anfwriadol

Weithiau, mae pobl hŷn yn gallu dioddef camdriniaeth neu esgeulustod dim ond am fod y bobl sy’n edrych ar eu hôl yn methu deall eu hanghenion yn llawn – neu sut i’w bodloni.

Mewn gofal preswyl neu ysbyty, gall cam-drin pobl oedrannus ddeillio o hyfforddiant a sgiliau gwael (neu hyd yn oed diffyg amser i’w dreulio gyda rhywun). Gallai enghreifftiau o gam-drin pobl oedrannus gynnwys:

  • clirio bwyd i ffwrdd cyn i’r person orffen bwyta
  • gwneud penderfyniadau dros rywun yn hytrach na gofyn iddyn nhw

Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun gartref ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’u hanghenion, mae’n bwysig ceisio cymorth – i’r ddau ohonoch chi.

Ffurfiau llai amlwg o gamdriniaeth

Mae ffurfiau eraill o gamdriniaeth yn llai amlwg ac efallai nad yw’r sawl sy’n eu cyflawni hyd yn oed yn ystyried eu camau yn gamdriniaeth (nes cael eu herio):

  • cymryd rheolaeth dros gyllid person hŷn yn erbyn eu hewyllys
  • camddefnyddio Atwrneiaeth Arhosol (LPA)
  • bygyth ynysu rhywun rhag eu teulu, er enghraifft eu hwyrion ac wyresau

Amddiffyn pobl hŷn rhag camdriniaeth

Mae’n gyfrifoldeb pawb cadw pobl hŷn yn ddiogel.

Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cael eu cam-drin – neu os credwch eich bod chithau’n cael eich cam-drin – mae’n rhaid i chi ddweud wrth rywun ar unwaith.

Cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Mae gan Hourglass (Saesneg yn unig) linell gymorth gyfrinachol rad ac am ddim.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023