Diffiniad traws-lywodraethol y DU o drais domestig a chamdriniaeth yw:
‘unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheolus, dylanwadol, bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl 16 oed neu’n hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu’n aelodau o deuluoedd beth bynnag eu rhyw neu rywedd. Gall y gamdriniaeth hon gwmpasu camdriniaeth seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.’
Mae camdriniaeth ddomestig bron bob tro yn ymwneud ag unigolyn yn ceisio arfer pŵer a rheolaeth dros rywun arall. Mae’n gallu digwydd i unrhyw un beth bynnag eu hoedran, dosbarth, hil, crefydd, rhywedd, deallusrwydd, incwm neu ddull o fyw.
Mae’r term ‘camdriniaeth ddomestig’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio camdriniaeth rhwng oedolion sydd – neu a oedd – mewn perthynas agos neu rywiol.
Fodd bynnag, mae camdriniaeth yn gallu digwydd mewn perthnasau eraill, er enghraifft, rhwng brodyr a chwiorydd, hanner a llys-frodyr a chwiorydd, a phan fydd plant sy’n oeodlion yn cam-drin eu rhieni.
Ydych chi’n cael eich cam-drin?
Mae camdriniaeth ddomestig yn aml yn anodd ei chanfod; ond mae’n debyg bod camdriniaeth yn digwydd os yw’r person arall yn:
- ymddwyn yn genfigennus neu’n ceisio’ch rheoli
- eich brifo’n gorfforol neu’n bygwth eich brifo
- dweud neu’n gwneud pethau o natur rywiol sy’n gwneud i chi deimlo’n anesmwyth
- eich ynysu rhag eich teulu a’ch ffrindiau
- cadw rheolaeth lym dros gyllideb yr aelwyd
Cymerwch gip ar y Arwyddion Rhybuddio a Baneri Coch (Saesneg yn unig) i’ch helpu i benderfynu a ddylech chi ystyried eu hymddygiad yn gamdriniaeth ddomestig.
A chofiwch, os yw’ch partnerneu rywun arall yn eich cam-drin chi, nid chi sydd ar fai, beth bynnag maen nhw’n ei ddweud.
Diogelu plant rhag camdriniaeth ddomestig
Mae bron yn sicr y bydd plant sy’n byw mewn cartref lle mae trais domestig a chamdriniaeth yn digwydd yn dioddef effaith andwyol o ganloyniad i’r hyn maen nhw’n dyst iddo neu’n ei glywed.
Os oes gennych chi blant ac rydych yn dal i fod mewn sefyllfa o gamdriniaeth, mae’n bosibl y bydd ystyriaethau amddiffyn plant. Mae gadael i blant wedl camdriniaeth ddomestig yn ffurf o gamdriniaeth plant.
Dianc
Os ydychchi’n dioddef camdriniaeth ddomestig, mae yna gyrff sy’n cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol, gan gynnwys Cymorth i Fenywod, a Dyn Cymru (Saesneg yn unig).
Os oes angen cefnogaeth arnoch chi – neu os ydych chi eisiau cael cymorth ar gyfer fictim neu blentyn sy’n byw yn y cartref – cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.