skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae camdriniaeth plant yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod tuag at blentyn neu berson ifanc, fel arfer gan oedolyn (er bod plant a phobl ifanc weithiau’n cam-drin ei gilydd hefyd).

Mae camdriniaeth plant yn gallu achosi niwed drwy gydol oes. Mae llawer o oedolion a gafodd eu cam-drin fel plant yn mynd ymlaen i ddioddef problemau wrth ffurfio perthnasau a gallant ddioddef broblemau iechyd meddwl o ganlyniad.

Yn drist, mae llawer o blant a phobl ifanc yn dioddef o lawer o fathau o gamdriniaeth.

Mae camdriniaeth plant bob amser yn anghywir, yn anghyfreithlon ran amlaf ac mae’n rhaid iddi gael ei hatal.

Camdriniaeth gorfforol

Mae camdriniaeth gorfforol yn aml yn cynnwys curo, dyrnu neu gicio, ond hefyd mae’n gallu cynnwys llosgi gyda sigarét neu roi alcohol neu gyffuriau i’r plentyn. Fel arfer bydd camdriniaeth gorfforol yn gadael olion ar y plentyn felly mae’n gallu bod yn haws ei gweld na ffurfiau eraill o gam-drin.

Ers mis Mawrth 2022, mae pob math o gosbi plant yn gorfforol - fel taro plant, taro, slapio ac ysgwyd - yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cosbi corfforol gan rieni'r plentyn. 

Camdriniaeth emosiynol

Fel arfer, cam-drin emosiynol yw pan fo oedolyn yn bygwth, bychanu, beirniadu neu anwybyddu plentyn.

Camdriniaeth rywiol

Mae camdriniaeth rywiol yn cynnwys cusanu, cyffwrdd yn amhriodol, rhyw geneuol a chyfathrach lawn. Mae’n gamdriniaeth hefyd dangos pornograffi i blentyn neu adael iddyn nhw wylio oedolion yn cael rhyw. Mae plant yn debycach o gael eu cam-drin yn rhywiol gan rywun maen nhw’n ei adnabod yn dda a’u cymdeithion.

Esgeulustod

Mae rhai rhieni, am ba reswm bynnag, yn methu â rhoi i blentyn ei anghenion sylfaenol. Mae enghreifftiau o esgeulustod yn gallu cynnwys dillad sy’n annigonol am y tywydd, gadael plentyn yn eisiau bwyd a pheidio â gofyn am sylw meddygol pan fydd ei angen.

Camdriniaeth ddomestig

Mae gadael i blant fod yn dyst i gamdriniaeth ddomestig yn ffurf ar gam-drin plant. Os oes gennych chi blant ac rydych chi mewn perthynas gamdriniol, mae’n bodisl bod pryderon o ran amddiffyn plant.

Adnabod arwyddion camdriniaeth plant

Yn aml bydd plant yn cymryd gofal mawr i guddio’r ffaith eu bod yn cael eu cam-drin, yn arbennig os yw’r sawl sy’n eu cam-drin yn rhiant iddynt neu’n aelod agos o’r teulu. Efallai eu bod yn ofni canlyniadau codi eu llais, neu’n ofni na fydd neb yn eu credu.

Dylai’ch amheuon gael eu procio os oes gan blentyn gleision, briwiau, llosgiadau neu anafiadau eraill heb esboniad, os yw’n anhapus, yn drallodus neu’n ofnus, yn ymddangos yn encilgar (neu’n ymosodol), yn dangos arwyddion esgeulustod corfforol, yn dechrau gwlychu’r gwely neu ddioddef hunllefau, yn ceisio osgoi’r sawl sy’n eu cam-drin neu’n cael anhawster i ganolbwyntio yn yr ysgol.

Cadw plant yn ddiogel

Mae’n gyfrifoldeb pawb cadw plant yn ddiogel.

Os oes gennych chi fymryn o amheuaeth bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso – neu os credwch eich bod chithau’n cael eich cam-drin – mae’n rhaid i chi ddweud wrth rywun ar unwaith.

Cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Ni fyddan nhw’n datgelu eich enw chi a gallech chi fod yn achub bywyd plentyn.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023