Ni all neb deimlo’n ddiogel ac yn hapus pan fydd y bobl o’u hamgylch yn frawychus, yn ymosodol neu hyd yn oed yn dreisgar tuag atyn nhw.
Mae’n naturiol cymryd yn ganiataol y bydd y bobl rydych chi’n rhannu’n bywyd â nhw - eich teulu a’ch ffrindiau, cymdogion a gofalwyr - yn eich trin chi gyda charedigrwydd a pharch.
Yn anffodus, nid felly y mae hi i bawb.
Camdriniaeth yn y cartref
Mae gan lawer o bobl reswm da i bryderu, neu hyd yn oed ofni, y driniaeth maen nhw’n ei derbyn o fewn eu cartrefi eu hunain, ac mae’r mwyafrif o bobl sy’n cam-drin yn hysbys i’w fictimau.
Mae camdriniaeth ddomestig a chamdriniaeth plant yn difetha bywydau ac yn chwalu teuluoedd. Mae camdriniaeth pobl oedrannus yn helaeth ond eto mae llawer o’r rhai sy’n ei wneud yn methu cydnabod bod eu hymddygiad yn gamdriniol.
Dylai pobl y mae arnyn nhw angen gwasanaethau cymorth – boed gartref neu mewn lleoliad preswyl – allu derbyn caredigrwydd a pharch oddi wrth y sawl sy’n cael eu talu i ofalu amdanyn nhw ond eto mae camdriniaeth yn digwydd hefyd mewn o fewn sefyllfaoedd preswyl.
Os ydych chi’n dymuno codi pryderon am wasanaeth gofal neu gartref preswyl, cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Camdriniaeth tu allan i’r cartref
Weithiau nid y bobl rydym ni’n rhannu’n bywydau â nhw yw’r broblem, ond y bobl rydym ni’n cwrdd â nhw pan awn ni allan o’n cartrefi.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymdogion niwsans yn gallu gwneud eich bywyd yn annymunol tu hwnt, ond does dim angen dioddef mewn tawelwch.
Os ydych chi’n cael eich aflonyddu neu’ch bygwth, neu os yw’ch adeiladau neu’ch eiddo’n cael eu fandaleiddio, cysylltwch â’r heddlu. Gallwch chi roi gwybod am broblemau sŵn i adran yr amgylchedd eich cyngor lleol.
Dylai troseddau casineb gael eu hadrodd bob tro. Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu eu hadrodd i'r heddlu ar-lein (Saesneg yn unig).
Os ydych chi’n anhapus neu’n teimlo’n anniogel gyda’r bobl o’ch amgylch ond yn ofni gwneud ffwdan, efallai y byddai’n well gennych petai rhywun yn siarad ar eich rhan.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 bob tro.