Pan fydd gennych chi anghenion gofal a chymorth, gallwch chi deimlo weithiau mai pobl eraill sy’n gwneud y penderfyniadau mawr yn eich bywyd – ble rydych chi’n byw, sut hoffech chi i’ch gwasanaethau gofal cartref (personol) gael eu darparu a chan bwy, neu hyd yn oed beth rydych chi’n ei wneud ar nosweithiau.
Mae’n gallu bod yn galetach byth godi’ch llais os yw’ch teulu a’ch ffrindiau chi – neu hyd yn oed y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol – yn credu eu bod yn gweithredu er eich lles gorau chi. Wedi’r cyfan, does neb eisiau ymddangos yn anniolchgar.
Eiriolaeth
Gallwch chi ofyn am help i wneud yn siŵr bod gennych chi lais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd – yr enw ar hyn yw ‘eiriolaeth’.
Pwrpas eiriolaeth yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth sy’n bwysig i chi. Mae eiriolaeth yn gallu bod yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd pan fydd arnoch chi angen i bobl eraill wrando arnoch chi a chymryd eich barn chi i ystyriaeth.
Yr enw ar yr unigolyn sy’n siarad ar eich rhan ac sy’n gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed yw ‘eiriolwr’.
Os oes gennych chi anghenion gofal a chymorth, gallwch chi ofyn i’ch cyngor lleol drefnu gwasanaethau eiriolaeth i chi p’un a ydyn nhw’n bodloni eich anghenion gofal neu beidio.
Gallwch chi ofyn am eiriolwr os ydych chi’n byw yn eich cartref eich hun, mewn llety gwarchod fel tai gwarchod neu’n byw mewn gofal preswyl.
Sut gall eich eiriolwr eich helpu chi?
Mae’r unigolyn sy’n gweithredu fel eich eiriolwr yn gwbl annibynnol ac mae yno i gynrychioli’ch dymuniadau chi heb eich barnu chi neu ddweud eu barn bersonol wrthych chi.
Bydd eich eiriolwr yn treulio amser yn dod i’ch adnabod ac yn darganfod eich barn a’ch dymuniadau chi.
Bydd hefyd:
- yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth mae arnoch chi ei hangen
- yn eich helpu i ddeall yr wybodaeth honno’n llawn
- yn esbonio’ch dewisiadau chi ac yn eich helpu i feddwl yn drylwyr amdanynt
- yn ysgrifennu llythyrau neu’n llenwi ffurflenni ar eich rhan
- yn mynd gyda chi i gyfarfodydd neu gyfweliadau
- yn siarad ar eich rhan pan deimlwch na allwch chi siarad eich hunan
- yn eich helpu i gwyno
- yn gwneud yn siŵr bod eich hawliau’n cael eu parchu
Bydd eiriolwr yn gwneud yr holl bethau hyn i’ch cefnogi chi; ond mae’n methu â’ch cynghori chi am beth i’w wneud na gwneud penderfyniadau ar eich rhan.
Ni fydd eich eiriolwr yn dweud wrth neb arall beth rydych chi’n dweud wrtho neu wrthi oni bai bod rheswm da iawn i gredu eich bod mewn perygl dybryd neu mewn risg sylweddol o niwed i’ch hunan neu i bobl eraill.
Mwy wybodaeth
Mae gan Mental Health Matters Wales (Saesneg yn unig) fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o eiriolwr ar ei gwefan.