skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymdogion niwsans yn mynd law yn llaw yn aml, achos yn aml eich cymdogion sy’n ymddwyn mewn ffordd sydd yn eich barn chi’n annerbyniol. Yn gyntaf, peidiwch â rhagdybio bod y person arall yn gwybod bod ei ymddygiad yn peri anghyfleustra neu ofid i chi.

Mae’n naturiol i bobl ifanc hongian o gwmpas cornel strydoedd a gallan nhw fod yn fywiog heb ei sylweddoli. Efallai na fydd perchnogion cŵn yn sylwi bod eu hanifeiliaid anwes yn cyfarth drwy gydol y dydd. Mae barbeciws mynych, cerddoriaeth uchel, gerddi wedi gordyfu ... i gyd yn gallu peri rhwystredigaeth fawr ond ydyn nhw wir yn anghymdeithasol?

Mae bob amser yn werth cael gair gyda chymdogion yn anffurfiol i weld a allwch chi ddatrys eich gwahaniaethau’n gyfeillgar. A byddwch yn barod i wrando ar eu safbwynt nhw hefyd.

Os ydych chi’n cael problemau difrifol o ran eich cymdogion neu os oes unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol arall yn digwydd yn eich cymuned, cadwch gofnod ysgrifenedig. Nodwch beth sy’n cael ei wneud, gan bwy, yr amser a’r dyddiad ac ai dyma’r tro cyntaf mae wedi digwydd neu beidio.

Pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn drosedd

Mae Deddf Trosedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014 wedi gwneud llawer o ffurfiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn droseddau felly mae’n haws erbyn hyn cael yr awdurdod lleol neu’r heddlu i gymryd camau.

Troseddau yw’r canlynol:

  • fandaleiddio cerbyd
  • pob math o aflonyddu
  • masnachu mewn cyffuriau
  • cynnau tanau gwyllt os yw’n berygl i bobl eraill
  • defnyddio eiddo at ddiben puteindra
  • reidio cerbydau modur ar lwybrau troed cyhoeddus
  • yfed alcohol ar y stryd
  • cyflymu injans ceir neu rasio

Ydych chi’n dioddef aflonyddwch?

Mae aflonyddu yn gallu cynnwys camdriniaeth eiriol, bygythiadau neu fandaliaeth yn erbyn eich eiddo; rhaid ei fod wedi digwydd ar o leiaf dau achlysur ac wedi peri pryder neu drallod i chi.

Mae Deddf Diogelwch Rhag Aflonyddu 1997 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i rywun ymddwyn mewn ffordd sy’n gyfystyr ag aflonyddu. Os ydych chi’n cael eich aflonyddu, mae’n bwysig adrodd pob digwyddiad i’r heddlu pan fydd yn digwydd er mwyn cronni’r dystiolaeth.

Cyfryngu a chyngor

Mae rhai landlordiaid cymdeithasol yn darparu cyfryngu i gymdogion sydd mewn anghydfod â’i gilydd. Os ydych chi’n denant tai cymdeithasol, holwch am hyn.

Mae Sound Advice on Noise yn cynnig cyngor i bobl sy’n dioddef problemau gyda sŵn.

Mae ASBHelp (Saesneg yn unig) yn rhoi cyngor ar sut i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys edrych ar ôl eich llesiant eich hun.

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rhowch wybod am niwsans sŵn i adran yr amgylchedd eich cyngor lleol.

Rhowch wybod am ddigwyddiadau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r heddlu ar 101, codwch y mater mewn cyfarfod PACT neu cysylltwch â’ch cyngor lleol. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Diweddariad diwethaf: 27/02/2023