Bydd pobl sy’n cam-drin yn aml yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i reoli ac arfer pŵer dros eu fictimau.
Er enghraifft, bydd y sawl sy’n cyflawni camdriniaeth ddomestig yn aml yn defnyddio dulliau corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol i reoli eu partner.
Yn yr un modd, mae gweithwyr gofal sy’n esgeuluso ac yn cam-drin eu cleientiaid oedrannus yn emosiynol hefyd o bosibl yn gallu defnyddio bygythiadau a hyd yn oed trais corfforol.
Camdriniaeth gorfforol
Mae camdriniaeth gorfforol yn cynnwys y cyflawnydd yn peri poen, dioddefaint neu anaf diangen i’r unigolyn arall.
Gallai hyn olygu eu curo, tynnu eu gwallt, rhwystro rhywun yn amhriodol neu dawelyddu rhywun er mwyn iddi fod yn haws gofalu amdanyn nhw.
Mae ymosodiad yn drosedd.
Camdriniaeth rywiol
Mae camdriniaeth rywiol yn digwydd pan fydd rhywun yn anfodlon neu’n methu â rhoi cytundeb gwybodus i’r gweithgarwch rhywiol mae rhywun yn gofyn iddyn nhw ei wneud.
Gallai’r gweithgarwch rhywiol ymddangos yn gydsyniol i ddechrau; ond gall gwahaniaethau mewn pŵer a dylanwad ei gwneud yn anodd iawn i’r fictim ddweud ‘na’ wrth y sawl sy’n eu cam-drin. Mae llosgach a phuteindra dan orfod yn ffurfiau o gamdriniaeth rywiol.
Trosedd yw unrhyw weithgarwch rhywiol pan nad yw un oedolyn yn cytuno o’u gwirfodd.
Camdriniaeth emosiynol neu seicolegol
Mae camdriniaeth emosiynol yn digwydd pan fydd rhywun yn peri dioddefaint meddyliol i rywun a allai ddisgwyl yn rhesymol ymddiried ynddyn nhw.
Gall camdriniaeth emosiynol gynnwys bwlio (gan gynnwys seiber-fwlrio), galw enwau a bygythiadau (hyd yn oed os nad yw’r sawl sy’n gwneud hynny byth yn bwriadu eu cyflawni) ac aflonyddu. Hefyd mae’n gallu golygu gorfodi rhywun i wneud rhywbeth yn erbyn eu dymuniadau.
Mae’r math yma o gamdriniaeth yn anodd ei chanfod yn aml am y gall fod yn gynnil iawn, e.e. anwybyddu neu eithrio rhywun yn gyson, gall y difrod emosiynol gronni dros gyfnod hir.
Mae aflonyddu yn drosedd.
Esgeuluso
Mae esgeulustod yn digwydd pan fydd rhywun y gellid disgwyl yn rhesymol i allu ymddiried ynddo, e.e. gweithiwr gofal neu nyrs, yn methu â darparu’r lefel ofal y byddai unigolyn rhesymol yn ei disgwyl.
Yn ymarferol, gallai hynny olygu gwneud yn siŵr bod rhywun yn cael eu helpu i fwyta ac yfed yn rheolaidd, neu fod lliain gwlyb yn cael ei newid.
Weithiau, mae esgeulustod yn gallu bod yn anfwriadol – efallai’n ganlyniad diffyg gwybodaeth neu hyfforddiant.
Pe bai’r risg yn rhesymol hysbys, mae’n bosibl y bydd yr esgeulustod yn cael ei ystyried ynn droseddol.
Camdriniaeth ariannol
Mae camdriniaeth ariannol yn gallu bod yn anos ei chanfod, achos weithiau mae’n dechrau gyda dymuniad gwirioneddol i helpu rhywun gyda’u materion ariannol.
Gall y gamdriniaeth olygu lladrad lwyr ond hefyd mae’n gallu bod yn fwy cynnil, fel y camdriniwr yn gofyn am fenthyciad nad yw’n bwriadu ei ad-dalu neu fynnu bod yr unigolyn yn buddsoddi yn eu busnes.
Mae’n bosibl y bydd camdrinwyr ariannol yn camfanteisio ar wahaniaethau mewn pŵer, gan roi ychydig iawn o ddewis i’w fictimau’n aml ond i ildio i’w galwadau.
Os ydych chi’n amau bod lladrad neu dwyll wedi cael ei gyflawni, cysylltwch â’r heddlu ar 101.
Diogelu pobl rhag camdriniaeth
Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cael eu cam-drin – neu os credwch eich bod chithau’n cael eich cam-drin – mae’n rhaid i chi ddweud wrth rywun ar unwaith.
Cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.