skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Nid oes gan rai oedolion y sgiliau sylfaenol i allu cymryd gofal o’u hunain ac aros yn ddiogel – a gall hyn eu gwneud yn fwy agored i gamdriniaeth.

Eu cyflwr hawdd eu niweidio – ac weithiau’r diffyg galluedd meddyliol – sy’n gwneud yr oedolion hyn yn fwy agored i wahanol fathau o gamdriniaeth, yn ogystal ag esgeulustod.

Pwy sy’n cael eu hystyried yn oedolyn sydd mewn perygl o gamdriniaeth?

Mae oedolyn sydd mewn perygl o gamdriniaeth yn debygol o fod yn cael cymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol a/neu iechyd ac efallai’n byw mewn llety preswyl neu lety gwarchod.

Efallai bod gan y person anableddau dysgu neu gorfforol neu broblemau iechyd meddwl. Neu efallai eu bod mewn perygl o gamdriniaeth oherwydd eu hoedran, breuder neu afiechyd.

Mae cyflwr hawdd eu niweidio person a’u risg o gael eu cam-drin hefyd yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Sut mae’r bobl hyn yn cael eu cam-drin?

Gall oedolion agored i niwed fod mewn risg arbennig o fathau penodol o gamdriniaeth, gan gynnwys:

  • camdriniaeth rywiol, gan gynnwys puteindra a llosgach
  • anogaeth i gyflawni trosedd, e.e. lladrad neu drais
  • esgeulustod (sy’n arwain yn aml at hunan-esgeulustod)
  • bwlio
  • trosedd casineb

Nid yw’n anghyffredin i berson hawdd ei niweidio gael eu cam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Er enghraifft, gall oedolyn hawdd ei niweidio gael eu perswadio i ymgymryd â pherthynas rywiol nad ydynt, neu na allant, gytuno iddi a gallai’r berthynas fynd yn dreisiol.

Camdriniaeth mewn lleoliad preswyl

O bryd i’w gilydd, mae’r sawl sy’n hawdd ei niweidio yn cael eu cam-drin gan yr union bobl sy’n cael eu talu i’w cadw’n ddiogel.

Weithiau mae diwylliant o safonau gofal gwael, nad yw staff unigol yn eu herio.

Mae’n bwysig codi unrhyw bryderon sydd gennych chi â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor.

Camdriniaeth un oedolyn syd mewn perygl gan un arall

Mae’r math hwn o gamdriniaeth yn debycach o fod yn gorfforol neu’n rhywiol a gall ddigwydd mewn sefyllfaoedd gofal dydd a sefydliadol. Er na fydd y camdriniwr efallai’n deall ei weithredoedd yn llawn, dylai camau gael eu cymryd i atal y math yma o gamdriniaeth rhag parhau.

Diogelu oedolion mewn perygl o gamdriniaeth

Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cael eu cam-drin – neu os credwch eich bod chithau’n cael eich cam-drin – rhaid i chi ddweud wrth rywun ar unwaith.

Cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

 

Diweddariad diwethaf: 27/02/2023