Y ddealltwriaeth gyffredinol o fwlio yw ymddygiad annymunol ailadroddus un neu fwy o unigolion tuag at berson arall, gyda’r bwriad o’u brawychu neu niweidio, neu achosi trallod emosiynol.
Ymhell o fod yn rhywbeth rydyn ni’n ei adael yn ôl wrth adael yr ysgol, bydd y mwyafrif ohonom ni’n dod ar draws oedolyn sy’n bwlio ar ryw adeg yn ein bywydau – pennaeth sy’n bygylu, cydweithiwr sy’n ein hanwybyddu’n fwriadol, cymydog ymosodol, hyd yn oed perthynas sy’n orlethol.
Mae cael ei fwlio’n gallu cael effaith fawr ar les meddyliol a hunan-barch rhywun, beth bynnag eu hoedran. Mae’n gallu gwneud iddyn nhw deimlo’n ddi-rym ac yn ddi-werth, yn arbennig os oes anghydbwysedd pŵer sy’n gwneud iddyn nhw deimlo na allan nhw godi eu llais.
Nid oes unrhyw ddiffiniad cyfreithiol o fwlio ac ynddo ei hun nid yw’n drosedd. Serch hynny, mae yn annymunol ac yn annerbyniol ac, drwy adael iddo fynd yn ei flaen yn ddirwystr, mae’n gallu achosi niwed hirdymor i’r sawl sy’n cael ei fwlio a bwli.
Mae aflonyddu ac ymddygiad bygythiol – dau fath o fwlio – yn erbyn y gyfraith.
Bwlio yn y gwaith
Yn drist, nid peth anghyffredin yw bwlio yn y gweithle, a bydd llawer o oedolion yn gadael swyddi a gyrfaoedd maen nhw’n eu mwynhau o ganlyniad i fwlio sy’n cael ei anwybyddu neu ei drin fel jôc.
Mae ymddygiad bwlio yn gallu cynnwys triniaeth annheg, bychanu neu danseilio rhywun drwy’r amser. Yn aml, cydweithiwr yw’r broblem, ond mae uwch reolwyr yn gallu dangos ymddygiad bwlio, ymosodol tuag at weithwyr iau hefyd.
Peidiwch ag aros yn dawel os ydych chi’n cael eich bwlio yn y gwaith - os byddwch chi’n gadael ei swydd heb roi gwybod am y bwlio, bydd y person sy’n ei gyflawni ond yn chwilio am darged arall.
Cadwch ddyddiadur gyda dyddiadau a manylion digwyddiadau (ac unrhyw dystion) a chadwch e-bost, nodiadau neu negeseuon fel tystiolaeth.
Rhowch wybod i’ch cyflogwr neu’r adran Adnoddau Dynol beth sydd wedi bod yn digwydd. Mae cyflogwyr yn gyfrifol am atal bwlio ac aflonyddu yn y gweithle, nid lleiaf am fod aflonyddu’n anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Os nad yw’ch cyflogwr yn gwneud dim i ddatrys y sefyllfa, siaradwch ag Acas (Saesneg yn unig). Os ydych chi’n aelod o Undeb Llafur, siaradwch â’ch cynrychiolydd lleol.
Seiberfwlio
Nid yw’n anghyffredin i oedolion ddioddef camdriniaeth ar-lein filain.
Gyda seiberfwlio, nid oes unrhyw ffordd o osgoi’r bwlïaid, a fydd efallai’n taflu sarhadau a bygythiadau atoch chi’n gyhoeddus wrth guddio’n aml tu ôl i anhysbysrwydd eu hunain.
Os ydych chi’n gwybod pwy yw’r bwli ac mae ei ymddygiad yn peri gofid neu drallod i chi, cadwch gopi o’r negeseuon neu fygythiadau a chwynwch i’r heddlu. Rydych chi’n cael eich aflonyddu ac mae aflonyddu’n anghyfreithlon.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod pwy yw’r bwli - neu’n amau pwy ydyw ond heb unrhyw brawf - dylech chi adrodd unrhyw seiberfwlio neu ddifrïo i’r safle cyfryngau cymdeithasol (Saesneg yn unig) perthnasol.
Cyngor a chymorth
Mae Acas wedi cynhyrchu arweiniad i gyflogeion (Saesneg yn unig) sy’n cael eu bwlio yn y gwaith (ac i reolwyr a chyflogwyr sy’n gyfrifol am ddelio â bwlio yn y gweithle).
Mae Bullies Out (Saesneg yn unig) yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr am fwlio mewn gwahanol amgylcheddau ac mae ganddo hefyd gyngor da am oleuo nwy, ysbrydion, pysgota â chathod a docsi.