skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yw ble mae organau cenhedlu benywod yn cael eu torri, niwedio neu newid am resymau diwylliannol yn hytrach na meddygol.

Mae’n arfer creulon, peryglus a phoenus ac mae ei effeithiau’n gallu para am oes.

Mae FGM yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ers 1985. O dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003, daeth yn anghyfreithlon i rywun gymryd dinesydd Prydeinig neu breswylydd parhaol allan o’r wlad er mwyn i FGM gael ei gyflawni’n rhywle arall neu i gynorthwyo rhywun arall i wneud hynny.

Os cewch eich dyfarnu’n euog o FGM – neu helpu iddo ddigwydd – gallwch gael eich anfon i’r carchar am hyd at 14 blynedd.

Er bod FGM yn anghyfreithlon mewn llawer o wledydd, mae’r arfer yn dal i fod yn gyffredin ledled y byd.

Y goblygiadau iechyd

Mae FGM yn cael ei gategoreiddio’n bedwar math, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y llawfeddygaeth. Mae’r mwyafrif o ferched yn cael eu torri cyn iddynt gyrraedd 15 oed.

Yr effeithiau uniongyrchol yw poen a gwaedu difrifol, anhawster pasio dŵr, heintiadau, anaf, sioc ac weithiau hyd yn oed marwolaeth.

Mae’r effeithiau hirdymor yn cynnwys poen cronig, heintiadau pelfig ac eraill, codenni, creithiau gormodol, cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd ac esgor, poen yn ystod cyfathrach rhywiol a llai o bleser rhywiol.

Mae Corff Iechyd y Byd yn rhestru canlyniadau iechyd FGM yn fanylach (Saesneg yn unig).

Amddiffyn merched a menywod ifanc rhag FGM

Cyflwynodd Deddf Troseddau Difrifol 2015 ddyletswydd gyfreithiol ar athrawon a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael eu rheoleiddio ddweud wrth yr heddlu os:

  • bydd merch dan 18 oed yn dweud wrthynt ei bod wedi dioddef gweithred FGM, neu
  • byddant yn gweld arwyddion corfforol y gallai gweithred FGM fod wedi ei gyflawni ar ferch o dan 18 oed

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol hysbysu’r cyngor lleol os bydd ganddynt achos rhesymol i amau bod plentyn mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed. Mae hyn yn cynnwys amau bod plentyn wedi dioddef FGM neu mewn perygl y bydd yn digwydd. 

Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr proffesiynol ddweud wrth yr heddlu a’r cyngor lleol fel ei gilydd am eu pryderon.

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM

Ers Gorffennaf 2015, gallwch wneud cais i’r llys am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM os ydych yn pryderu am blentyn neu fenyw ifanc. Mae’n drosedd torri’r gorchymyn hwn (gyda dedfryd uchaf o bum mlynedd o garchar). Am fwy o wybodaeth a’r ddogfennaeth berthnasol, cliciwch yma (Saesneg yn unig).

Codi pryderon (fel person lleyg)

Os ydych yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc wedi bod drwy FGM – neu ar fin mynd drwyddo – cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor yn gyfrinachol neu’r heddlu ar 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999.

Hefyd gallwch gysylltu â’r llinell gymorth FGM ar 0800 028 3550.

Os bydd rhywun wedi cael ei gymryd tramor yn barod

Os bydd yn rhy hwyr atal y plentyn neu’r fenyw ifanc rhag cael ei chymryd tramor, cysylltwch â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar unwaith ar 020 7008 1500.

Mwy o wybodaeth

Mae Forward UK yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’n cynnig cymorth i unrhyw un sydd mewn perygl o FGM neu sydd wedi’u heffeithio gan FGM. Ffoniwch 0208 960 4000 est 1 (9.30am–5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener).
 

Diweddariad diwethaf: 05/01/2023