Yn dibynnu ar eich amgylchiadau – ac a oeddech wedi bwriadu cael baban neu beidio – gall darganfod eich bod yn mynd i fod yn rhiant fod yn brofiad ardderchog, cyffrous, syfrdanol neu hyd yn oed frawychus.
Ar ôl i’r cyffro neu’r sioc gychwynnol fynd heibio, yn aml bydd y sawl a fydd yn rhieni am y tro cyntaf yn dechrau tybio a ydynt yn barod i fod yn rhieni. Wedi’r cyfan, mae mynd yn fam neu’n dad yn ymrwymiad aruthrol ac yn un a fydd, yn ddi-os, yn newid eich bywyd am byth. Mae mynd o fod yn bâr - neu ar eich pen eich hun - i fynd yn deulu yn gofyn am gryn dipyn o ymaddasu.
Ar adeg pan fyddwch chi eisoes yn teimlo’n flinedig ac yn emosiynol o bosib, mae’n gallu ymddangos bod gormod i feddwl amdano:
Beichiogrwydd
Pan fyddwch yn feichiog, mae gennych chi ddau (neu fwy) o bobl i edrych ar eu hôl. Mae’ch dewisiadau chi o ran dull o fyw yn effeithio ar rywun arall hefyd erbyn hyn.
Mae gan GIG 111 Cymru Ganllaw Beichiogrwydd cynhwysfawr iawn sy'n cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod ac sy'n esbonio beth i'w ddisgwyl ar bob cam o'ch beichiogrwydd. Mae'n werth edrych arno.
Mae menywod beichiog yn cael eu hannog i ddeall symudiadau normal eu baban ac i siarad â’u bydwraig am unrhyw beth sy’n eu poeni, gan gynnwys teimlo’n isel.
Er mai ar y fam mae’r sylw meddygol, mae hon yn adeg bwysig i’r ddau riant. Os yw’n bosibl, mynychwch ddosbarthiadau cyn-enedigol gyda’ch gilydd er mwyn i chi gael paratoi am yr enedigaeth rydych ei heisiau.
Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn ysmygu, dyma’r amser i roi’r gorau. Mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn gosod y fam a’r baban mewn risg sylweddol uwch o gam-esgor, marw-enedigaeth, Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (marwolaeth yn y crud) (Saesneg yn unig) a phwysau geni isel. Mae gan fwg ail-law risgiau andwyol i iechyd baban newydd-anedig hefyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig y cyngor (Saesneg yn unig) hwn i fenywod beichiog yn ystod y cyfnod ŵyna.
Genedigaeth
Erbyn hyn, caiff menywod beichiog eu hannog i wneud penderfyniadau gwybodus am ble a sut mae eu baban yn cael ei eni. Mae cynllun geni yn rhoi’r cyfle i chi wneud yn glir beth hoffech iddo ddigwydd a beth rydych am ei osgoi. Nid oes rhaid i chi lunio cynllun geni, ond bydd eich bydwraig yn helpu os ydych am lunio un.
Rhai pethau y byddwch efallai am eu hystyried:
Ble fydd yr enedigaeth
- Ward esgor lle cewch ofal gan fydwragedd gyda chyfleusterau meddygol a meddygon wrth law os bydd arnoch eu hangen.
- Uned dan arweiniad bydwragedd lle mae ffocws ar enedigaeth heb ymyrraeth feddygol.
- Genedigaeth gartref pan ddaw’r bydwragedd i’ch cartref chi i edrych ar eich ôl yn ystod yr esgor a’r enedigaeth.
Eich partner geni (Saesneg yn unig)– rhywun a fydd yn aros gyda chi drwy gydol eich amser esgor i roi cefnogaeth emosiynol a chorfforol i chi. Tad y baban yw hwn yn aml, ond mae llawer o fenywod yn dewis ffrind agos, partner neu berthynas.
Rhyddhad rhag poen (Saesneg yn unig)– mae llawer o opsiynau ar gael gan gynnwys nwy ac aer, pigiadau pethidin, epidwral, peiriant TENS, ymarferion ymlacio ac anadlu neu ymdrochi mewn dŵr.
Eich barn am ymyriadau meddygol, e.e. gefel a geni gyda fentŵs, Cesaraidd, episiotomi, ac ati.
Er y bydd eich tîm bydwragedd yn parchu’ch cynllun geni, mae angen i chi aros yn hyblyg pe bai cymhlethdodau’n digwydd yn ystod yr enedigaeth.
Ar ôl yr enedigaeth
Os eich baban cyntaf yw hwn, efallai y sylwch fod perthnasau a ffrindiau (hyd yn oed dieithriaid) yn awyddus iawn i gynnig cyngor. Er eu bod yn bwriadu bod yn gadarnhaol, cofiwch fod barn feddygol gyfoes yn newid yn gyson ar faterion fel yr ystum cysgu gorau i faban, bwydo ar y fron a phryd i’w ddiddyfnu (Saesneg yn unig).
Erbyn hyn, cydnabyddir bod bwydo ar y fron yn cynnig manteision iechyd pwysig i’r baban ac i’r fam a’i fod yn helpu i gwlwm agosrwydd ffurfio rhyngddynt. Mae La Leche ac NCT (Saesneg yn unig) yn cynnal grwpiau cymorth ar gyfer mamau newydd.
Mae’n arferol i deimlo’n flinedig, yn ddagreuol ac yn ofidus yn y dyddiau cynnar; ond os bydd eich teimladau’n parhau, efallai eich bod yn dioddef iselder ôl-enedigol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol i gael y cymorth mae ei angen arnoch chi.
Mae Magu Plant: Rhowch Amser Iddo yn helpu rhieni i ddeall sut mae plentyn yn datblygu o 0-5 mlwydd oed ac yn cynnwys llawer o gynghorion am fagu plentyn.
Am fwy o wybodaeth am feichiogrwydd, genedigaeth a phan gaiff eich baban ei eni, ewch i Ganllaw Beichiogrwydd Galw Iechyd Cymru (Saesneg yn unig).
Mae Naw Mis a Mwy yn cynnwys llawer o wybodaeth ar gyfer y sawl sydd ar fin mynd yn rhieni a rhieni newydd.
Mae NCT (Saesneg yn unig) yn cynnal dosbarthiadau cyn-enedigol a llinell gymorth sy’n cynnig cyngor am bob agwedd ar feichiogrwydd a dyddiau cynnar bod yn rhiant.