Mae plant yn dechrau dysgu a datblygu o’r eiliad maent yn dod i mewn i’r byd – ac yn parhau i wneud drwy gydol eu bywydau.
Mae plentyn yn tyfu ac yn datblygu yn gyflym iawn rhwng ei eni a phum mlwydd oed. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn cyrraedd llawer o ‘gerrig milltir datblygiadol’ fel cropian, cerdded, siarad a chwarae.
Peidiwch byth â rhoi pwysau ar eich plentyn os yw’n ymddangos ei fod yn arafach wrth wneud pethau na phlant eraill yr un oed – a pheidiwch â dechrau poeni am eich sgiliau rhianta. Mae plant yn unigolion a bydd y mwyafrif yn cyrraedd y camau datblygu amrywiolyn eu hamser da eu hunain.
Mae’n bosibl y bydd plant anabl neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd mwy o amser i gyrraedd gwahanol gerrig milltir.
Mae plant iau yn dysgu drwy chwarae felly chwiliwch am gyfleoedd i blant cyn-ysgol gymdeithasu ag eraill yr un oedran. Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio ac mae’ch plentyn yn derbyn gofal mewn lleoliad gofal plant, yna byddant yn cael eu hannog i ryngweithio a dysgu drwy chwarae.
Rhywbeth arall y gallwch ei wneud fel rhiant/gofalwr yw darllen gyda’ch gilydd. Mae’r arbenigwyr yn cytuno bod darllen gyda’ch baban neu blentyn ifanc yn helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol. Bydd y gallu i ddarllen yn dda yn hanfodol i ddysgu, felly yn ogystal a meithrin perthynas agos rhwng rhiant a phlentyn, byddwch hefyd yn eu paratoi am yr ysgol.
Mae dysgu ffurfiol eich plentyn yn dechrau pan fydd yn dair blwydd oed ac yn parhau am fwy na degawd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi wneud cais am le mewn meithrinfa, ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar rieni i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg llawn-amser briodol. Yn ymarferol, mae hyn fel arfer yn golygu yn yr ysgol, er, am wahanol resymau, mae rhai rhieni’n dewis addysgu eu plant yn y cartref.
Bydd y mwyafrif o blant yn ymgartrefu yn yr ysgol heb unrhyw broblemau; ond o bryd i’w gilydd, bydd plentyn efallai’n dangos ymddygiad heriol. Nid yw ymddygiad heriol yr un peth ag ymddygiad problemus sy’n berffaith normal ar oedran penodol, e.e. dwy flwydd ddychrynllyd neu hwyliau anwadal plant yn eu harddegau.
Mae rhediad llyfn ysgol yn dibynnu ar bartneriaeth rhwng yr ysgol, ei disgyblion a’i rhieni, gan ddangos parch tuag at ‘reolau’r ysgol’.
Mae’r mwyafrif o blant yn aros yn yr un ysgol gynradd ac ysgol uwchradd ddilynol drwy gydol eu haddysg. Ond weithiau, mae’n dod yn angenrheidiol neu’n ddymunol symud plentyn i ysgol wahanol, e.e. os symudwch gartref neu mae’ch plentyn yn anhapus neu’n cael ei fwlio.
Mae addysg orfodol yn dod i ben yn 16 oed. Ar ôl hynny mae’n rhaid i berson ifanc benderfynu naill ai i barhau gyda’u hastudiaethau yn yr ysgol neu goleg neu chwilio am gyfle hyfforddiant.
Yn ffodus, erbyn hyn nid yw mynd yn rhiant yn ystod yr arddegau yn nodi diwedd addysg person ifanc a bydd ysgolion a cholegau fel ei gilydd yn cefnogi rhieni ifanc i barhau â’u haddysg.
Bydd dysgu a datblygiad eich plentyn yn parhau ar ôl iddo fynd yn annibynnol – gallwch chi roi’r dechrau gorau mewn bywyd iddo drwy fod yn fodel rôl ardderchog!