skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae sioc darganfod bod baban ar y ffordd – wedi ei dilyn gan alwadau ymarferol edrych ar ôl plentyn ifanc – yn golygu bod llawer o rieni yn eu harddegau yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond i roi eu dyheadau academaidd eu hun o’r neilltu, a hynny am byth weithiau.

Nid oes dwywaith y gall fod yn heriol (ac yn lluddedus) ymdopi â gofalu am blentyn ac astudio; ond, gyda chefnogaeth, mae’n bosib i rieni ifanc sy’n dymuno cwblhau eu haddysg wneud hynny. Yn wir, mae llawer o rieni yn eu harddegau yn darganfod bod eu cymhelliant yn gryfach byth i gael addysg coleg neu brifysgol a chynllunio am y dyfodol nawr bod eu baban wedi cyrraedd.

Yn yr un modd â phobl ifanc eraill, mae gan rieni yn eu harddegau hawl i gyngor diduedd, uchel ei ansawdd, am ddewisiadau gyrfa a chyrsiau ac addysg oddi wrth gynghorwyr Gyrfa Cymru.

Colli blwyddyn 11

Pan fydd person ifanc yn beichiogi neu’n cael baban ym Mlwyddyn 11, byddant efallai’n darganfod eu bod ‘blwyddyn ar ei hôl’ yn nhermau addysg orfodol. Os bydd hyn yn wir, a’r person ifanc wedi dangos ymrwymiad cadarn o’r blaen, fel arfer bydd y cyngor lleol yn trefnu iddynt astudio am flwyddyn arall er mwyn cwblhau cyrsiau arholiad, e.e. TGAU, neu Fagloriaeth Cymru. Gallai’r flwyddyn ychwanegol hon ddigwydd mewn ysgol neu mewn coleg addysg bellach.

Addysg ôl-orfodol

Mae hyn yn cyfeirio at astudiaethau ar ôl 16 oed gan ddechrau fel arfer gyda chyrsiau galwedigaethol fel BTEC, City and Guilds ac NVQs, neu lefelau A sy’n cael eu sefyll mewn ysgol neu golegau addysg bellach.

Mae arian ar gael i helpu rhieni ifanc i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd addysg bellach. Cysylltwch â’ch coleg lleol am fwy o wybodaeth.

Sgiliau sylfaenol

Mae sgiliau rhifedd, llythrennedd a TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) da yn hanfodol yn y rhan fwyaf o swyddi felly os bydd person ifanc wedi colli rhywfaint o’i addysg gynharach, efallai y bydd am dreulio amser yn gwella ei fathemateg a Saesneg sylfaenol cyn cychwyn mewn addysg bellach neu hyfforddiant.

Cyrsiau Llwybr at Radd

Mae’r cyrsiau hyn – sydd hefyd yn cael eu galw’n gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch – ar gyfer myfyrwyr heb unrhyw gymwysterau blaenorol a hoffai astudio mewn prifysgol. Maent yn ddelfrydol i rieni ifanc a fydd efallai wedi colli’r cyfle i sefyll lefelau A yn yr ysgol. Mae’n bosibl y bydd ffioedd rhatach ar eu cyfer.

Talu am eich cwrs

Fel arfer nid oes rhaid i bobl ifanc sydd rhwng 16 a 18 oed dalu unrhyw ffioedd cwrs a byddant efallai (yn dibynnu ar incwm yr aelwyd) yn gymwys i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr ifanc.

Mae’n bosibl y codir ffioedd dysgu ar fyfyrwyr amser llawn sy’n 19 oed neu’n hŷn. Mae’r mwyafrif o golegau addysg bellach yn cynnig dysgu am ddim neu am dâl gostyngedig i ddysgwyr o deuluoedd ag incwm isel, dysgwyr anabl neu ddysgwyr sy’n derbyn budd-daliadau. Fe allant fod yn gymwys hefyd am Grant Dysgu gan Lywodraeth Cymru - Addysg Bellach o hyd at £1,500.

Mae llawer o golegau hefyd yn rhoi cymorth ariannol gyda phethau fel tocynnau bws, gofal plant, offer a phrydau bwyd i fyfyrwyr sy’n gymwys.

Pan fydd arian yn brin, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio unrhyw fudd-daliadau mae gennych hawl i’w derbyn. Mae gan Gingerbread (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth am fudd-daliadau i rieni sengl yn eu harddegau (rhaid i chi gofrestru’n gyntaf ond mae’n rhad ac am ddim).

Astudio gartref

Efallai yr hoffai rhieni ifanc nad ydynt yn barod i fynd yn ôl i’r coleg ystyried ymrestru ar gyrsiau ar-lein am ddim fel Future Learn ac Alison (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 21/02/2023