skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’n amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd addysg dda; fodd bynnag, mae dysgu plentyn yn dechrau ymhell cyn iddo fynd i’r ysgol ac yn parhau ar ôl i’w addysg orfodol ddod i ben.

Mae’r blynyddoedd cynnar (0-5) yn arbennig o bwysig i ddatblygiad plentyn wrth iddo ddechrau darganfod y byd o’i amgylch. Mae chwarae gyda’ch plentyn yn annog ei ddealltwriaeth raddol o bob math o bethau a bydd yn ei helpu i ddysgu i siarad.

O’r diwrnod y gwnewch gais am le mewn meithrinfa am eich plentyn tair oed i’r eiliad y bydd eich mab neu ferch yn derbyn eu canlyniadau arholiad, byddwch mewn cysylltiad cyson â phenaethiaid, staff addysgu a’r unigolion eraill sy’n ymwneud ag addysg eich plentyn.

Yng Nghymru, mae addysg - yn yr ysgol neu gartref - yn orfodol o’r tymor yn dilyn pumed pen-blwydd eich plentyn tan ddydd Gwener olaf Mehefin i blentyn un ar bymtheg oed (ar yr amod y bydd y person ifanc yn 16 erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn ysgol honno).

Mae ysgolion yng Nghymru yn rhai cyfwng Cymraeg (lle caiff plant eu haddysgu’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn y Gymraeg), cyfrwng Saesneg (lle caiff y Gymraeg ei dysgu fel ail iaith) ac ysgolion dau gyfrwng (lle bydd gwersi yn y ddwy iaith).

Mae dyletswydd gyfreithiol ar rieni i wneud yn siŵr bod eu plentyn yn erbyn addysg amser llawn addas. Mae cysylltiad cryf rhwng cyflawniad addysgol plentyn a mynychu ysgol yn rheolaidd ac mae’n ofynnol i ysgolion gymryd cofrestr bresenoldeb dwywaith y dydd.

Mae ysgolion yn cymryd cyfathrebu â rhieni o ddifrif ac, yn ogystal ag anfon llythyron adref gyda disgyblion, mae gan y mwyafrif eu gwefan eu hun a byddant yn cysylltu â rhieni drwy negeseuon e-bost a thestun. Mae gan rai ysgolion gyngor ysgol lle bydd cynrychiolwyr dosbarth yn cael eu hannog i rannu barn disgyblion ag athrawon a llywodraethwyr, ac mae gan y mwyafrif gymdeithas rhieni-athrawon.

Mae bwlio yn cael ei drin yn ddifrifol a bydd gan bob ysgol ei pholisi gwrth-fwlio ei hun (fel arfer fe welwch hwn ar wefan yr ysgol). Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn efallai’n cael ei fwlio yn yr ysgol neu ar y ffordd i’r ysgol neu’n ôl, codwch eich pryderon gyda’r pennaeth. 

Ond weithiau, mae’n dod yn angenrheidiol neu’n ddymunol symud plentyn i ysgol wahanol. Efallai bod hyn oherwydd bod y teulu yn symud i ardal newydd neu am fod y plentyn yn anhapus yn yr ysgol bresennol. Siaradwch â’r ddwy ysgol cyn i chi wneud penderfyniad terfynol. Cofiwch, nid yw cludiant ysgol yn cael ei ddarparu’n awtomatig i blant sy’n symud i ysgol tu allan i’w dalgylch.

O bryd i’w gilydd, bydd plentyn yn newid ysgolion yn dilyn asesiad bod ganddo Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) a bydd y lleoliad addysgol newydd mewn sefyllfa well i fodloni ei anghenion.

Efallai y bydd angen i rai plant sy’n dangos ymddygiad heriol – am fod ganddynt anabledd dysgu difrifol o bosib – gael eu haddysgu tu allan i ysgol prif ffrwd hefyd.

Mae ysgolion yn cymryd gwahardd disgyblion fel mater o bwys; ond mae yna rai adegau pan fydd ymddygiad person ifanc cymaint yn is na’r ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth ddisgyblion mai’r unig gam yw ei wahardd, naill ai dros dro neu’n barhaol. 

Mae dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau lleol i gefnogi rhieni sydd yn eu harddegau i aros mewn addysg. Mae cymorth ychwanegol hefyd i rieni ifanc sy’n dymuno dilyn addysg bellach ac uwch.

Diweddariad diwethaf: 21/05/2018