Mae addysg yn orfodol yng Nghymru hyd at 16 oed, sy’n golygu bod rhaid i gynghorau lleol gefnogi rhieni yn eu harddegau sydd o dan yr oedran hwn i barhau â’u hastudiaethau, hyd yn oed os yw hynny’n golygu dysgu tu allan i ysgol brif ffrwd.
Wrth gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol, bydd cynghorau yn gweithio gyda’r person ifanc, eu rhieni, yr ysgol, y gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill fel cyrff iechyd i gefnogi mamau a merched beichiog sydd yn eu harddegau. Y nod yw galluogi rhieni yn eu harddegau i barhau ag addysg sy’n addas am eu hoedran, eu gallu, eu cymhwysedd a’u hanghenion unigol (gan gynnwys disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol).
Hefyd fe allai cynghorau lleol fod yn fodlon trefnu darpariaeth addysgol i famau a merched ifanc beichiog sydd rhwng 16 a 18 oed.
Parhau i fynychu’r ysgol
Fel arfer mae mamau ifanc yn cael eu hannog i aros mewn addysg amser llawn tra byddant yn feichiog, oni bai bod trefniadau eraill yn angenrheidiol oherwydd eu hamgylchiadau meddygol neu bersonol. Bydd pennaeth yr ysgol yn parchu dymuniadau’r person ifanc am gyfrinachedd ac yn gwneud yn siŵr, pan fydd y beichiogrwydd yn dod yn hysbys, bod athrawon a disgyblion eraill yn ymdrin â’r fam yn ei harddegau yn sensitif.
Ni chaiff unrhyw fenyw ifanc ei heithrio o’r ysgol am ei bod yn feichiog neu’n fam ifanc, ac mae’n rhaid i unrhyw achosion o fwlio gael eu trin yn yr un modd ag ar gyfer disgybl nad yw’n feichiog, h.y. ni ddylai eithrio o’r ysgol fod yn opsiwn sy’n cael ei ystyried.
Pan fydd disgybl yn dod yn feichiog ym Mlwyddyn 11, bydd efallai’n anodd iddi ddychwelyd i addysg brif ffrwd mewn pryd i sefyll arholiadau. Yn y sefyllfaoedd hyn, gallai fod yn briodol mynd yn syth ymlaen i addysg bellach neu ystyried ail-wneud y flwyddyn ysgol.
Cymryd amser i ffwrdd
Os yw’r disgybl yn methu â mynychu’r ysgol am resymau meddygol ond yn gallu astudio o hyd, bydd yr ysgol yn darparu gwaith iddi ei wneud gartref.
Bydd mynychu dosbarthiadau cyn-enedigol yn cael ei drin fel absenoldeb awdurdodedig.
Mae gan ddisgybl hawl i ddim mwy na 18 wythnos o absenoldeb awdurdodedig yn union cyn ac ar ôl yr enedigaeth. Wedi hynny mae dychwelyd i’r ysgol yn cael ei annog. Pan nad yw’r fam sydd yn ei harddegau wedi dychwelyd o fewn y cyfnod hwn, dylai fod ganddi fynediad i gefnogaeth yr ysgol a’r cyngor o hyd, a bydd yn cael ei hannog i ddychwelyd pan fydd yn barod.
Os bydd y person ifanc yn dymuno dychwelyd i addysg cyn hyn, bydd y cyngor yn darparu math addas o addysg, h.y. ysgol brif ffrwd neu ddarpariaeth amgen.
Mae’n bwysig nodi nad yw bod yn rhiant, ynddo ei hun, yn rheswm dros gael eich eithrio rhag addysg orfodol.
Tadau oedran ysgol
Mae’n bwysig bod anghenion tadau a darpar dadau oedran ysgol yn cael eu diwallu hefyd. Os yw’n briodol, gallai’r ysgol ystyried rhywfaint o hyblygrwydd yn yr amserlen a’r cwricwlwm.
Gallai hyn olygu bod yr ysgol yn caniatáu amser i ffwrdd i’r person ifanc fynychu apwyntiadau cyn-enedigol neu ddosbarthiadau sgiliau magu plant (fel absenoldeb awdurdodedig) neu drefnu cymorth oddi wrth asiantaethau eraill. Os bernir bod ei angen, gallai’r ysgol drefnu sesiynau cwnsela.
Pan gaiff y baban ei eni
Mae ar rieni ifanc sy’n dychwelyd i addysg amser llawn angen yr holl gefnogaeth gallant ei chael. Os bydd rhieni’r naill riant ifanc neu’r llall yn gallu helpu gyda gwarchod y baban neu’n ariannol, mae hynny’n hwb mawr.
Gofal plant - bydd swyddog ailintegreiddio neu gynghorydd personol y person ifanc yn rhoi cyngor am ddod o hyd i ofal plant, gan gynnwys help gyda’r costau. Bydd teuluoedd efallai’n gymwys i dderbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith (Saesneg yn unig) os bydd y nain neu’r taid, neu’r ddau, yn gweithio, neu gostau gofal plant fel rhan o’u Credyd Cynhwysol (Saesneg yn unig).
Cymorth ariannol - fel arfer ni chaiff pobl ifanc hawlio budd-daliadau drostynt eu hunain nes iddynt gyrraedd 16 oed. Yr eithriad yw Budd-dal Plant (Saesneg yn unig) sy’n daladwy i unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn dan 16 oed.
Pan fyddwch yn cyrraedd 16, efallai y cewch hawlio rhai budd-daliadau penodol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae gan Gingerbread declyn canfod budd-daliadau (Saesneg yn unig) ar gyfer rhieni yn eu harddegau.
Os ydych chi dan 18 oed, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn talebau Healthy Start (Saesneg yn unig), y gallwch eu gwario ar ffrwythau a llysiau mewn archfarchnadoedd a siopau lleol.
Cludiant rhwng eich cartref a’r ysgol - mae gan eich cyngor bwerau dewisol i drefnu cludiant am ddim i’r ysgol os bydd meddyg teulu yn ardystio bod person ifanc wedi cyrraedd cam yn ei beichiogrwydd pan na all gerdded i’r ysgol ragor.