skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae pob plentyn yn cael ei eni gyda’r angen i chwarae, beth bynnag eu gallu, hil, diwylliant neu rywedd. Mae gan blant fwy o ryddid pan fyddan nhw’n chwarae ac mae hyn yn hynod o bwysig. Mae’n golygu eu bod nhw’n gallu dysgu amdanyn nhw eu hunain, y bobl o’u cwmpas a’r byd ehangach ar eu cyflymder eu hun. Mae’r darganfyddiadau mae plant yn eu gwneud a’r sgiliau maen nhw’n eu hennill wrth gael arwain eu chwarae eu hun yn helpu i feithrin eu hyder a’u hawydd i ddarganfod mwy.

Mae chwarae yn hanfodol am:

  • ddatblygiad yr ymennydd
  • gweithgarwch corfforol
  • datblygu cydsymudiad
  • cynyddu sgiliau iaith a llythrennedd
  • datblygu sgiliau cymdeithasol
  • cynyddu ymwybyddiaeth emosiynol
  • cefnogi lles cyffredinol plentyn

Beth mae ei angen ar blant i chwarae?

Bydd plant yn chwarae’n unrhyw le os cân nhw’r cyfle. Mae’n bwysig iddyn nhw gael yr amser a’r cyfle i chwarae mewn gwahanol fathau o leoedd, gan gynnwys dan do ac yn yr awyr agored. Mae angen oedolion ysgogol o’u cwmpas hefyd a fydd yn gadael iddyn nhw chwarae’n rhydd wrth sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel.

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Er bod bywyd modern wedi lleihau’r cyfleodd i blant chwarae’n annibynnol (yn arbennig yn yr awyr agored), mae chwarae’n cael ei gydnabod fel bod yn hanfodol bwysig i ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a chreadigol plant (Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru 2002).

Gan hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod dyletswydd ar bob cyngor lleol ddarparu cyfleoedd chwarae digonol i blant sy’n byw yn eu hardaloedd ac i ddarparu gwybodaeth i bobl leol am beth sydd ar gael. Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael yn rhwydd ar eu gwefan.

Mae Chwarae Cymru yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r sawl sydd â diddordeb mewn darparu chwarae plant, neu sy’n gyfrifol am ei ddarparu.

Diweddariad diwethaf: 21/02/2023