Mae sgiliau cymdeithasol da yr un mor bwysig i lesiant cyffredinol plentyn neu berson ifanc â’u hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol.
O oedran cynnar, mae plant yn chwilio am ryngweithio ag eraill. Mae babanod yn gwenu ac yn baldorddi wrth eu rhieni gan obeithio cael ymateb cadarnhaol ac, erbyn dwy flwydd oed, mae plant bach fel arfer yn awyddus i ryngweithio â phlant bach eraill.
Erbyn iddynt gyrraedd tair neu bedair, bydd y mwyafrif o blant yn treulio llawer o amser yn chwarae gyda’u ffrindiau go iawn cyntaf. Mae chwarae nid yn unig yn annog plant i fod yn weithgar - yn arbennig os byddant yn chwarae yn yr awyr agored - ond yn datblygu eu hyder a’u gallu i gymysgu.
Yn aml bydd plant â sgiliau cymdeithasol sydd wedi’u datblygu’n wael yn colli’r cyfleoedd sy’n dod i’w rhan am fod diffyg hyder ganddynt yn eu galluoedd eu hun. Mae plentyn hyderus yn debygol o gydnabod ei ofnau a gwneud y peth beth bynnag. Gadewch i’ch plentyn wybod ei bod yn iawn peidio â llwyddo bob tro a’i annog i gymryd risgiau (o fewn terfynau diogel). Bydd gweithredu yn hybu ei hyder, a fydd yn ei dro yn gwella ei sgiliau cymdeithasol.
Wrth i blant dyfu i fyny, mae cyfeillgarwch yn dechrau dod yn bwysicach iddynt; mewn gwirionedd, mae’r cyfeillgarwch rhwng llawer o blant yn para am oes. Ond bydd rhai plant yn ei chael yn fwy anodd gwneud ffrindiau, efallai am eu bod yn swil, am fod ganddynt ddiddordebau gwahanol i’w cyfoedion neu mae canfyddiad nad ydynt yn ffitio i mewn am ba bynnag reswm. Yn aml gall plant sy’n ei chael yn anodd gwneud ffrindiau deimlo’n ynysig sydd, ymhen amser, yn gallu effeithio’n andwyol ar eu llesiant meddyliol.
Un o’r dulliau gorau o annog datblygiad cymdeithasol eich plentyn – yn enwedig os yw’n cael anhawster gwneud ffrindiau yr un oedran yn yr ysgol – yw ei gael yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Mae gan rai plant ddawn naturiol am chwaraeon. Os nad ydynt yn cael eu hysbrydoli gan y chwaraeon tîm sy’n cael eu chwarae mewn gwersi Ymarfer Corfforol, nid oes dim i’w hatal rhag rhoi cynnig ar chwaraeon eraill, pethau fel athletau, celf ymladd neu hwylio.
Yn yr un modd, mae plant sy’n gymdeithasgar yn naturiol – a’r sawl sydd angen mwy o anogaeth i gymysgu – yn aml yn awyddus i ddilyn eu diddordebau tu allan i’r ysgol. Efallai y bydd rhai am ddilyn diddordebau diwylliannol a chelfyddydol, drama amatur efallai neu ymuno â band neu gerddorfa, tra bydd eraill efallai’n dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth neu’n angerddol am achos penodol. Gall gweithgareddau allgyrsiol helpu plentyn i ddod yn fwy hyderus drwy estyn ei gylch cymdeithasol a’i alluogi i wneud ffrindiau o’r un anian.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall i bobl ifanc fynd allan a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae’n bosibl y bydd modd i blant nad ydynt yn ddigon hen eto i wirfoddoli dros elusen ar eu pen eu hun helpu mewn dulliau eraill, e.e. gwneud eitemau crefft i’w gwerthu mewn digwyddiad codi arian, neu helpu i gasglu sbwriel yn lleol.
Wrth gwrs, fel arfer mae bod yn weithredol yn gymdeithasol yn golygu gorfod teithio tu allan i’ch cymuned uniongyrchol. Er bod plant ifanc fel arfer yn dibynnu ar eu rhieni (neu rieni ffrindiau) am gludiant, bydd plant hŷn yn aml yn fodlon gwneud eu ffordd eu hun i weithgareddau cymdeithasol neu chwaraeon. Mae cludiant cyhoeddus yn tueddu i fod yn well mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol, ond mewn ardaloedd gwledig efallai y bydd angen i bobl ifanc yrru ar y cyfle cyntaf.