skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae llesiant emosiynol a meddyliol unigolyn yn effeithio ar sut maent yn teimlo amdanynt eu hun, eu perthnasau a’u gallu i ymdopi â theimladau ac amgylchiadau anodd.

Nid yw bod mewn hwyliau da yn emosiynol yn golygu bod popeth yn eich bywyd yn berffaith, ond eich bod yn ddigon cydnerth i ddelio ag unrhyw broblemau sy’n codi, yn gallu ymaddasu i newid ac yn gallu wynebu’r dyfodol gydag optimistiaeth.

Ni all neb fod yn emosiynol gryf drwy gydol yr amser. Mae bywyd yn annarogan ac wrth reswm yn dylanwadu ar ein llesiant emosiynol. Mae digwyddiadau negyddol bywyd fel marwolaeth anwylyn, pryderon o ran llety ac ansicrwydd economaidd yn aml yn gatalydd i broblemau iechyd meddwl.

Mae’n rhaid i rieni roi anghenion eu plant o flaen eu hanghenion eu hun; ond gall hyn fod yn anodd os nad ydych yn teimlo’n emosiynol gryf eich hunan.

I rai benywod, genedigaeth eu baban yw man cychwyn eu problemau iechyd meddwl. Mae symptomau a difrifoldeb iselder ôl-enedigol yn amrywio’n fawr iawn; fodd bynnag, mae llawer o famau sy’n dioddef iselder ôl-enedigol yn gallu cael anhawster wrth ffurfio ymlyniad â’u baban ac wrth edrych ar ei ôl o ganlyniad.

Mae problemau emosiynol ac iechyd meddwl yn effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd. Mae llawer o bobl ifanc yn anhapus, yn ofidus a hyd yn oed yn hunanladdol, yn aml mewn ymateb i’r hyn sy’n mynd yn ei flaen o’u hamgylch – gartref, yn yr ysgol neu yn y gymuned ehangach – ac nad oes ganddynt unrhyw reolaeth drosti.

Mae plant a phobl ifanc yn edrych tuag at eu rhieni i ofalu amdanynt, felly pan fydd rhiant yn mynd yn sâl mae’n gallu bod yn adeg frawychus ac ansefydlog iddynt, yn fwy byth pan fydd gan y rhiant salwch terfynol. 

Mae plant y mae eu rhieni’n camddefnyddio alcohol a chyffuriau mewn risg uwch o esgeulustod a chamdriniaeth a byddant yn fwy tebygol o ddatblygu problemau emosiynol ac iechyd meddwl eu hunain.

Bydd rhai pobl ifanc efallai’n dechrau hunan-niweidio fel dull o ymdopi, tra gallai eraill ddatblygu anhwylderau bwyta.

Mae teimlo’n dda yn emosiynol yr un mor bwysig â theimlo’n iach ac yn dda yn gorfforol. Os ydych chi – neu blentyn neu berson ifanc rydych yn eu hadnabod – yn teimlo’n isel neu’n dioddef problemau iechyd meddwl, siaradwch â rhywun bob tro.

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch neu lesiant plentyn neu berson ifanc, dwedwch wrth rywun bob tro.

Mwy o Wybodaeth

Mae Darllen yn Well yn argymell llyfrau i blant sy'n cefnogi eu hiechyd a'u lles emosiynol. Mae’r llyfrau wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw ac maent yn rhad ac am ddim i’w benthyca o lyfrgelloedd ledled Cymru.
 

Diweddariad diwethaf: 30/01/2023