Mae’n anodd deall pam byddai rhywun sydd â’i fywyd o’i flaen yn dymuno marw, ond bob blwyddyn mae llawer o bobl ifanc yn cyflawni hunanladdiad.
Fel arfer mae’r rhesymau dros benderfynu rhoi terfyn i’w bywyd eu hun yn gymhleth – ac mae llawer mwy o ddynion ifanc yn marw drwy hunanladdiad na menywod ifanc. Pan fydd bywyd yn mynd yn anodd, mae rhai pobl ifanc yn teimlo wedi eu gorlethu’n emosiynol ac efallai nad oes ganddyn nhw’r cydnerthedd i ymdopi â beth sydd o’u blaen.
Nid yw bob ymgais hunanladdiad yn llwyddiannus - a bydd rhai efallai’n cael eu dehongli fel cri am help gan rywun sy’n ddi-obaith yn hytrach nag ymgais benderfynol i ladd ei hun.
Mae colli rhywun i hunanladdiad yn gallu bod yn anodd iawn dod i delerau ag ef, yn arbennig os person ifanc sydd wedi marw. Mae gwybod bod eich plentyn neu rywun sy’n agos atoch wedi cymryd eu bywyd eu hun yn cymhlethu teimladau arferol galar. Efallai y teimlwch ddicter tuag ag atyn nhw am eich gadael chi, neu’n beio eich hun am fethu ag atal yr hunanladdiad.
Er bod y teimladau hyn yn ddealladwy, mae’n debygol nad oes dim gallech chi fod wedi ei wneud i atal yr hunanladdiad. Nid yw llawer o bobl ifanc sy’n cymryd eu bywyd eu hun yn dangos unrhyw arwyddion allanol o anobaith i’r sawl sy’n eu caru.
Beth sy’n gwneud pobl ifanc yn hunanladdol?
Iechyd meddwl yw’r ffactor risg pennaf am deimladau hunanladdol, e.e. iselder neu anhwylder deubegynol, er bod llawer o bobl ifanc sy’n ymgeisio neu’n llwyddo i gymryd eu bywyd eu hun heb gael unrhyw ddiagnosis ffurfiol. Mae pobl ifanc sy’n cymryd gwrth-iselyddion yn gallu wynebu risg arbennig.
Mae rhywun sy’n hunan-niweidio neu sydd ag anhwylder bwyta yn fwy tebygol o geisio hunanladdiad er bod y risg yn aros yn isel.
Mae rhesymau di-rif pam gallai person ifanc feddwl efallai mai’r unig opsiwn yw rhoi terfyn ar eu bywyd, gan gynnwys:
Arwyddion rhybuddio
Weithiau – ond nid bob tro – mae arwyddion rhybuddio bod person ifanc yn meddwl am hunanladdiad. Mae’r rhain yn cynnwys:
- bygwth niweidio neu ladd eu hunain
- siarad neu ysgrifennu am farwolaeth, marw neu hunanladdiad
- mynegi teimladau o anobaith neu fod wedi eu maglu
- colli diddordeb mewn bywyd
Mae gan Galw Iechyd Cymru 111 restr lawn o arwyddion rhybuddio.
Clystyrau hunanladdiad
Pan fydd un hunanladdiad neu ymgais hunanladdiad yn digwydd yn fuan ar ôl rhai eraill mewn ardal neu gymuned, e.e. coleg, mae weithiau’n cael ei alw’n hunanladdiad ‘copycat’ neu’n hunanladdiad clwstwr.
Mae clystyrau hunanladdiad yn debycach ymhlith pobl dan 25 oed ac yn aml mae’r un dull o farw yn cael ei ddefnyddio. Weithiau mae’r bobl ifanc dan sylw yn adnabod ei gilydd ac mae ymgeisiau hunanladdiad yn cael eu hachosi gan alar a methu ymdopi. Mae’n bosibl y bydd ymdriniaeth yn y newyddion a chyfryngau cymdeithasol yn anfwriadol yn rhoi cyfaredd i hunanladdiad yng ngolwg person ifanc hawdd ei niweidio.
Sut i helpu rhywun sydd â meddyliau hunanladdol
Os ydych chi’n poeni bod person ifanc efallai’n meddwl am hunanladdiad, peidiwch â chadw’ch pryderon i’ch hun. Anogwch nhw i siarad am eu teimladau. Peidiwch â barnu, byddwch yn amyneddgar a helpwch nhw i gyrchu’r gefnogaeth gywir.
Mae llawer o gyrff a fydd yn helpu dydd a nos, gan gynnwys y Samariaid, Childline, Young Minds (Saesneg yn unig) a Papyrus (Saesneg yn unig).
Mae dynion ifanc sy’n anhapus neu’n hunanladdol yn gallu cael cymorth oddi wrth y Campaign Against Living Miserably (CALM) (Saesneg yn unig).
Mae hefyd yn werth siarad â’ch meddyg teulu. Byddan nhw’n penderfynu a oes angen help proffesiynol ar eich plentyn am broblem iechyd meddwl gwaelodol ac yn gallu eu hatgyfeirio at y bobl gywir am driniaeth.
Os camdriniaeth oedd y sbardun am deimladau hunanladdol, mae’n bwysig ei adrodd.
Mwy o wybodaeth
Mae gan Young Minds (Saesneg yn unig) arweiniad i oroesi ar gyfer rhieni sy’n poeni am eu plentyn. Mae yna linell gymorth ar gyfer rhieni hefyd. Ffôn: 0808 802 5544
Mae MIND wedi llunio A-Z o iechyd meddwl (Saesneg yn unig).
Mae C.A.L.L. yn llinell gymorth gyfrinachol am broblemau iechyd meddwl. Ffôn: 0800 132 737
Mae Stonewall Cymru yn cefnogi pobl ifanc hoyw, lesbiaidd, ddeurywiol a thraws. Ffôn: 08000 50 20 20
Mae Togetherall (Saesneg yn unig) yn gymuned iechyd meddwl ar-lein sydd ar gael 24/7 gyda rhaglenni hunan-gymorth ac ‘arweiniadau mur’ wedi eu hyfforddi’n broffesiynol. Mae aelodau’n aros yn ddi-enw.
Mae Help is at Hand (Saesneg yn unig) yn ganllaw i helpu'r rhai sy'n galaru am farwolaeth rhywun maen nhw'n ei garu i ddelio â chanlyniad emosiynol ac ymarferol hunanladdiad.