skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae cymryd risgiau yn rhan naturiol o dyfu i fyny; fodd bynnag, mae defnyddio alcohol a chyffuriau ar oedran ifanc - a chyn i’r ymennydd ddatblygu’n llawn - yn gallu cynyddu tebygolrwydd caethiwed person ifanc yn y dyfodol.

Mae alcohol a chyffuriau yn sylweddau sy’n newid hwyliau. Gallant wneud i berson ifanc deimlo’n hapus, yn egnïol, yn effro, wedi ymlacio, yn benfeddw a heb ataliad, neu’n isel, mewn panig, dan bwysau, hyd yn oed yn hunanddinistriol.

Mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn gallu effeithio ar allu person ifanc i ganolbwyntio, ei berfformiad addysgol, ei dymer a’i iechyd corfforol ac emosiynol.

Mae’n gallu bod yn angheuol hefyd: mae pobl ifanc wedi marw wrth gymryd cyffuriau am y tro cyntaf ac mae canran uchel o farwolaethau damweiniol yn cynnwys alcohol. Mae pobl ifanc sy’n yfed yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn troseddau treisiol, neu eu dioddef, hefyd

Alcohol
Mae alcohol (Saesneg yn unig) ar gael yn eang ac, hyd yn oed os yw’ch plentyn o dan oedran cyfreithiol yfed alcohol mewn tafarnau, bydd yn fwy na thebyg yn dod ar ei draws mewn partïon neu wrth gymdeithasu gyda ffrindiau.

Mae pobl ifanc yn gweld yfed ym mhob man - ar y teledu, ymhlith ffrindiau hŷn ac yn y cartref - felly does dim syndod eu bod yn credu ei fod yn ymddygiad normal i oedolion. Yn ffodus, bydd y pen mawr gwael cyntaf yn annog llawer o bobl ifanc i beidio ag yfed yn drwm eto yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sy’n yfed yn fwy tebygol o ddefnyddio cyffuriau eraill, gan ychwanegu at y risgiau.

Cyffuriau

Mae cyffuriau yn gallu bod hyd yn oed yn fwy peryglus gan ei bod yn amhosibl i berson ifanc wybod yn union beth mae’n ei gymryd neu sut y gallai adweithio i gyffur penodol.

Mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu gosod mewn tri dosbarthiad (Saesneg yn unig) yn dibynnu ar y niwed mae eu camddefnydd yn ei achosi i’r defnyddiwr neu i gymdeithas. 

Ers 2016, mae hefyd wedi bod yn anghyfreithlon mewnforio neu gyflenwi sylweddau seicoweithredol (Saesneg yn unig) – a elwid unwaith yn ‘gyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ – ond i beidio â’u defnyddio.

Mae rhai cyffuriau yn fwy caethiwus nag eraill, e.e. heroin, tra bod eraill sy’n fwy tebygol o beri effeithiau peryglus ar unwaith, e.e. ecstasi a chocên crac. Mae’n hysbys bod cyffuriau fel canabis yn cael effeithiau seiciatrig niweidiol hirdymor ar rai defnyddwyr.

Ni all neb byth fod yn siŵr bod unrhyw bowdr, pilsen neu hylif yn cynnwys beth mae rhywun yn dweud ei fod. Bu llawer o ddigwyddiadau o bobl yn meddwl eu bod yn cymryd ecstasi pan PMA oedd ef mewn gwirionedd (sy’n gallu lladd ar ddognau is).

Mae perygl y bydd pobl ifanc yn cymysgu cyffuriau, gan ychwanegu at y risgiau.

Mae FRANK (Saesneg yn unig) yn rhoi gwybodaeth fanwl am bob cyffur, gan gynnwys yr effeithiau, y risgiau a’r gyfraith.

Mae Dan 24/7 wedi llunio A-Z o gyffuriau.

Pam ydy pobl ifanc yn defnyddio cyffuriau ac alcohol?

Mae’n naturiol i bobl ifanc roi cynnig ar bethau newydd, yn arbennig gweithgareddau sydd yn eu golwg nhw yn bethau i ‘bobl mewn oed’. Mae yfed neu gymryd cyffuriau gyda ffrindiau yn gallu teimlo fel llawer o hwyl.

Ymhlith y rhesymau eraill dros yfed a chymryd cyffuriau mae:

  • chwilfrydedd syml – tybio sut mae’n teimlo i fod yn feddw neu’n benfeddw
  • modelau rôl – maent yn gweld oedolion yn defnyddio alcohol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, felly’n methu gweld beth sy’n bod arno
  • pwysau cymheiriaid – mae’n gallu bod yn anodd dweud ‘na’ pan fydd pawb arall yn gwneud rhywbeth
  • mwynhad – mae alcohol a chyffuriau yn gwneud i’r person ifanc deimlo’n dda ar y pryd.

Mae Drink Aware yn esbonio pam mae pobl ifanc yn yfed alcohol.

Sut allwch chi helpu

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi helpu:

  • Siaradwch am gyffuriau ac alcohol yn agored.
  • Gosodwch derfynau a rheolau pendant.
  • Anogwch eich plentyn i fod yn hyderus yn ei ddewisiadau fel bod modd iddo ddweud ‘na’ yn haws.<
  • Byddwch yn fodel rôl cadarnhaol. Gosodwch enghraifft dda gyda’ch ymddygiad eich hun.
  • Anogwch eich plentyn i ymgymryd â gweithgareddau sy’n arwain at ‘anterth naturiol’ fel chwaraeon, drama, cerddoriaeth, ac yn y blaen.

O bryd i’w gilydd, mae rheswm corfforol, emosiynol neu iechyd meddwl tu ôl i gamddefnydd alcohol a chyffuriau gan berson ifanc. Os ydych chi’n poeni am ddefnydd alcohol neu gyffuriau person ifanc, mae’n bwysig gofyn am gymorth eich meddyg teulu sy’n gallu ei atgyfeirio at gymorth a gwasanaethau arbenigol.

Diweddariad diwethaf: 20/02/2023