Ni ddylai iechyd da byth gael ei gymryd yn ganiataol - hyd yn oed yn achos plant a phobl ifanc.
Mae’r mwyafrif o blant yn gydnerth yn naturiol; ond bydd arnynt angen gefnogaeth yr oedolion yn eu bywydau i aros yn iach ac yn heini drwy gydol plentyndod a thu hwnt.
Mae benywod beichiog yn cael eu hannog i fwyta’n iach ac osgoi alcohol, sigarennau a rhai mathau penodol o fwyd drwy gydol eu beichiogrwydd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w baban. Bellach mae bwydo ar y fron yn cael ei gydnabod fel dod â manteision iechyd pwysig i’r baban a’r fam fel ei gilydd.
Mae imiwneiddio yn arbennig o bwysig i fabanod a phlant ifanc am fod eu system imiwnedd yn anaeddfed, gan eu gwneud yn fwy agored i haint a chymhlethdodau difrifol. Mae brechiadau yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol, gan alluogi plentyn i ymladd clefyd yn fwy effeithiol os bydd yn ei ddal.
Mae noson dda o gwsg yn hanfodol i lesiant corfforol a meddyliol plentyn, ac mae diffyg cwsg yn gysylltiedig â phethau fel problemau cydsymud, gorfywiogrwydd, tymer ansad ac anhawster cadw gwybodaeth.
O ganlyniad i gyfuniad o ddeiet gwael a diffyg gweithgarwch corfforol, mae cyfraddau gordewdra ymhlith plant wedi cynyddu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf. Gall bod yn ordrwm neu’n ordew gael effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol eich plentyn, pan fydd yn tyfu i fyny a phan fydd yn oedolyn.
Mae digonedd o bethau gallwch eu gwneud i helpu’ch plentyn i golli pwysau’n iach, gan gynnwys rhoi’r gorau i fyrbrydau a diodydd llawn siwgr, a’i annog ef – ac efallai’r teulu cyfan – i arwain dull o fyw mwy gweithgar. Efallai y bydd pobl ifanc nad ydynt yn hoff o chwaraeon tîm yn yr ysgol yn darganfod eu bod yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel seiclo, chwaraeon dŵr, cyfeiriadu neu ddringo. Yr allwedd yw eu hannog i roi cynnig ar fwydydd a gweithgareddau newydd.
Mae agwedd bositif tuag at fywyd a’i heriau yr un mor bwysig i gadw’n iach â bwyd ac ymarfer corff. Mae plant yn ffurfio perthnasoedd â’r bobl sydd o’u hamgylch o oedran cynnar a’r perthnasoedd positif hynny sy’n cyfoethogi eu bywydau ac yn cyfrannu at eu llesiant cyffredinol.
I’r gwrthwyneb, dylai perthnasoedd afiach sy’n gwneud i blentyn neu berson ifanc deimlo’n wael amdano ei hun neu’n euog, yn isel, yn ddig neu dan bwysau gael eu hosgoi neu eu terfynu.
Nid perthnasoedd negyddol yn unig sy’n gallu peri pryder ac mae’n naturiol i bobl ifanc ddioddef straen pan fyddant yn wynebu heriau, e.e. arholiadau pwysig, newidiadau mawr neu benderfyniadau am eu dyfodol. Os bydd eich plentyn yn cael anhawster wrth ymdopi â’i lefel straen o ddydd i ddydd, yna mae’n bryd siarad ag ef ac efallai gofyn am gymorth proffesiynol.
Pan fydd eich plentyn yn cyrraedd y glasoed mae’n dod yn llawer mwy anodd gwybod ble y mae drwy’r amser a beth mae’n ei wneud. Bydd llawer o bobl ifanc yn mynd drwy gyfnod gwrthryfelgar pan fydd yn arbrofi gydag ymddygiadau mentrus fel ysmygu, cyffuriau ac alcohol. Amlygwch y peryglon heb swnio fel petaech yn darlithio iddo.
Dylai pobl ifanc sy’n dechrau yn eu perthnasoedd rhywiol cyntaf allu gwneud penderfyniadau gwybodus am atal cenhedlu a gwybod sut i amddiffyn eu hun rhag clefydau a drosglwyddir yn rhywiol.
Wrth gwrs, y ffordd orau o sicrhau bod eich plentyn yn aros yn iach yw bod yn fodel rôl ardderchog. Mae plant sy’n gweld eu rhieni’n bwyta’n iach, yn ymarfer ac yn yfed yn gymedrol (neu ddim o gwbl) yn llawer mwy tebygol o wrando ar y wers.