skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae iechyd rhywiol yn fwy na pherson ifanc yn gwneud penderfyniadau am atal cenhedlu ac amddiffyn eu hunain rhag clefydau a drosglwyddir yn rhywiol; mae’n ymwneud â gwneud dewisiadau positif iddynt eu hunain a’u partneriaid.

Mae iechyd rhywiol yn gysylltiedig â llesiant emosiynol, corfforol a chymdeithasol ac mae’n golygu mabwysiadu agwedd bositif a pharchus tuag at berthnasau rhywiol. Ni ddylai gorfodaeth neu gamdriniaeth chwarae unrhyw ran mewn unrhyw berthynas rywiol.

Hefyd dylai pobl ifanc fod yn effro i beryglon secstio, hyd yn oed pan fyddant mewn perthynas gydsyniol.

Mae rhywedd a rhywioldeb (Saesneg yn unig) yn gallu bod yn faterion cymhleth ac nid yw’n beth anghyffredin i berson ifanc fod yn ddryslyd am eu hunaniaeth a/neu eu teimladau rhywiol. Mae’n bwysig eu cefnogi i fod eu hunain ac i’w helpu i wybod ble i fynd os bydd angen cefnogaeth arnynt.

Pobl dan 16 oed

Yn y DU, yr oedran cydsynio (Saesneg yn unig) i unrhyw fath o weithgarwch rhywiol yw 16 i ddynion a menywod, p’un a ydynt yn heterorywiol, yn gyfunrywiol neu’n ddeurywiol.

Caniateir i weithwyr iechyd proffesiynol roi cyngor a/neu driniaeth am atal cenhedlu i bobl ifanc 13 i 16 oed os byddant yn credu bod hynny er budd meddygol gorau’r person ifanc ac os bydd y person ifanc yn rhoi cydsyniad gwybodus.

O dan y gyfraith, ni all plant 12 oed ac yn iau roi eu cydsyniad i unrhyw ffurf o weithgarwch rhywiol.

Clefydau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

Mae STIs yn gyffredin iawn ac mae’r mwyafrif yn hawdd eu trin. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu trosglwyddo yn ystod cyfathrach rywiol a rhyw drwy’r geg felly condomau (Saesneg yn unig) sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau.

Chlamydia (Saesneg yn unig) yw’r STI mwyaf cyffredin a welir yng Nghymru, gan effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc (ffigurau 2014). Ychydig o symptomau amlwg sydd i Chlamydia, felly mae’n bosibl na fydd y person ifanc bob amser yn sylweddoli bod ganddynt haint oni bai eu bod yn cael eu profi. Mae’r mwyafrif o fferyllfeydd yn gwerthu offer profi cartref.

Mae dafadennau organnau cenhedlu – darnau cnodiog bach neu newidiadau i’r croen o amgylch y man cenhedlol neu’r anws – yn gyffredin iawn hefyd. Erbyn hyn mae pob merch ym Mlwyddyn 8 yn cael cynnig brechiad HPV sy’n amddiffyn yn erbyn tua 90% o ddefaid gwenerol.

Mae herpes gwenerol (Saesneg yn unig) yn hynod o heintus ac yn gyffredin ymhlith pobl 20-24 oed. Mae’n peri pothelli poenus, ac er nad oes modd ei wella’n gyfan gwbl, mae modd ei reoli gyda meddyginiaeth wrthfeirysol.

Mae llau pwbig (sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘grancod’) a’r crafu yn cael eu trosglwyddo’n bennaf drwy gysylltiad rhywiol ond mae’n bosibl eu dal o gysylltiad croen llai agos.

Mae syffilis ac HIV yn fathau mwy difrifol o STI sy’n gallu peri risgiau iechyd difrifol yn y dyfodol, o’u gadael heb eu trin.

Mae’r mwyafrif o STIs yn gallu cael eu trin yn hawdd gyda gwrthfiotigau ond gall rhai arwain at broblemau mwy difrifol os cânt eu gadael heb eu trin, er enghraifft, gall gonorea arwain at anffrwythlondeb.

Atal cenhedlu

Dewis personol yw atal cenhedlu ac mae’n dibynnu’n fawr iawn a ydy rhywun yn dymuno dechrau teulu (neu gael baban arall) yn y dyfodol agos.

Mae ffurfiau poblogaidd o atal cenhedlu yn cynnwys:

  • condomau – yr unig fath o atal cenhedlu sy’n amddiffyn yn erbyn beichiogrwydd ac STIs
  • atal cenhedlu hormonaidd – pils progestogen yn unig a chyfunol
  • dyfeisiau mewngroth, fel y coil
  • clytiau atal cenhedlu
  • mewnblaniadau atal cenhedlu

Mae atal cenhedlu brys ar gael pan fydd rhywun yn cael rhyw heb ei gynllunio a heb amddiffyniad ac nid yw am fynd yn feichiog.

Mae dau fath o atal cenhedlu brys:

  • dyfais fewngroth gopr (IUD) yw’r ffurf fwyaf effeithiol (mae’n atal 99% o feichiogrwyddau). Nid oes unrhyw sgîl-effeithiau ac mae’n gallu cael ei gadael yn ei lle i ddod y ffurf arferol o atal cenhedlu.
  • pilsen atal cenhedlu frys (sy’n aml yn cael ei galw’r ‘bilsen bore wedyn’). Mae’n rhad ac am ddim ar bresgripsiwn ond dim ond pobl dros 16 oed all ei phrynu o fferyllfa

Chwiliwch am glinig iechyd rhywiol ar GIG 111 Cymru.

Mwy o wybodaeth

Mae Brook (Saesneg yn unig) yn rhoi gwybodaeth am ddim a chyfrinachol i bobl dan 25 oed. Mae eu Pecyn Goleuadau Traffig Ymddygiadau Rhywiol yn esbonio pa fath o ymddygiad rhywiol sy’n briodol ar oedrannau gwahanol a phryd y bydd gweithgarwch rhywiol yn dod yn fater diogelu.

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor ar iechyd rhywiol i bobl ifanc.
 

Diweddariad diwethaf: 20/02/2023