skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r mwyafrif o bobl yn ei chael yn anodd dychmygu sut allai rhywun niweidio plentyn neu berson ifanc yn fwriadol – ac eto mae plant yng Nghymru yn cael eu cam-drin bob dydd, llawer ohonynt yn eu cartrefi eu hun.

Efallai mai digwyddiad un-tro fydd y gamdriniaeth, e.e. ymosodiad rhywiol neu anffurfio organau cenhedlu benyw, neu efallai ei bod yn parhau, weithiau am lawer o flynyddoedd.

Nid oes unrhyw reswm unigol dros gamdriniaeth plant, ond mae colli tymer, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ymddygiad rheoli a chymhelliant rhywiol yn nodweddion mynych.

Efallai na fydd rhai camdrinwyr yn ystyried eu hymddygiad fel camdriniaeth, e.e. rhieni sy’n defnyddio ataliad corfforol neu ymddygiad bygythiol fel ffordd o ddisgyblu plentyn.

Pan fydd plentyn yn cael ei fagu mewn amgylchedd o drais neu gamdriniaeth, gall feddwl mai peth normal yw cael ei wthio a’i guro - neu mai arno ef mae’r bai am ei fod wedi cythruddo oedolyn mewn rhyw ffordd neu wedi ‘gofyn amdani’.

Nid yw hyn yn wir – nid bai plentyn neu berson ifanc yw camdriniaeth byth.

Ers mis Mawrth 2022, mae pob math o gosbi plant yn gorfforol – fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd – yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Pwy sy’n gwneud y cam-drin?

Mae’r mwyafrif o blant yn adnabod eu camdrinwyr. Yn aml maent yn aelodau’r teulu – rhieni, nain neu daid, ewythr neu fodryb, brawd/chwaer neu gefnder/cyfnither. Efallai eu bod yn ffrindiau i’r teulu, gwarchodwyr plant, cysylltiadau busnes neu hyd yn oed weithwyr proffesiynol mewn rolau o ymddiriedaeth sy’n treulio llawer o amser o amgylch y plentyn.

Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin fel plant – a heb dderbyn cefnogaeth a chwnsela – yn mynd yn eu blaen i gam-drin eraill eu hunain, e.e. bwli ysgol a chymar rheolus.


Mathau o gamdriniaeth plant

Mae llawer o wahanol ffurfiau o gamdriniaeth plant, ac yn drist mae llawer o bobl ifanc yn dioddef mwy nag un fath o gamdriniaeth:

  • Camdriniaeth gorfforol – mae hyn yn cynnwys curo, dyrnu, cicio a llosgi
  • Camdriniaeth rywiol - sy’n cynnwys trais rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant
  • Camdriniaeth emosiynol – mae’n fwy anodd ei hadnabod, ond yr un mor niweidiol gan fod beirniadaeth a bygythiadau cyson yn cael effaith andwyol ar lesiant emosiynol plentyn
  • Esgeulustod – pan fydd rhiant neu ofalwr yn methu ag ymateb i anghenion corfforol neu emosiynol plentyn neu berson ifanc
  • Camdriniaeth ddomestig – mae bod yn dyst i gamdriniaeth ddomestig yn fath o gamdriniaeth plant sy’n gadael plant yn teimlo’n ddiymadferth ac yn ofn
  • Masnachu mewn plant – caiff plant eu symud o gwmpas gan bobl eraill am amryw o resymau, gan gynnwys camdriniaeth rywiol, llafur dan orfod a gweithgarwch troseddol
  • Caethwasiaeth fodern – caiff plant eu hamddifadu o’u rhyddid a’u gorfodi i weithio am ychydig neu ddim tâl  
  • Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod – mae’r arfer creulon hwn yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig; fodd bynnag, mae’n dal i ddigwydd mewn rhai diwylliannau
  • Secstio - mae tecstio delweddau o natur rywiol amlwg yn gallu gadael person ifanc yn agored i fwlio, magu perthynas amhriodol a chamfanteisio rhywiol.
  • Magu perthynas amhriodol – mae magu perthynas amhriodol ar-lein yn dod yn fwy cyffredin; ond gall plant gael eu targedu gan ysglyfaethwyr maent yn cwrdd â nhw yn y bywyd go iawn hefyd
  • Bwlio – mae bwlio’n digwydd gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith neu ar-lein
  • Troseddau casineb – camdriniaeth sy’n cael ei chyfeirio at bobl y mae canfyddiad eu bod yn wahanol oherwydd eu hil, crefydd, anabledd, ac ati.

Adnabod arwyddion camdriniaeth plant

Mae camdriniaeth plant o unrhyw fath yn annerbyniol, ond nid yw bob amser yn hawdd adnabod yr arwyddion, hyd yn oed i weithwyr proffesiynol.

Bydd pobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin drwy gydol eu plentyndod efallai’n meddwl bod eu triniaeth yn normal. Hyd yn oed os byddant yn sylweddoli bod yr hyn sy’n digwydd iddynt yn anghywir, efallai y teimlent eu bod yn methu neu’n ofni dweud wrth neb. Os rhiant, perthynas agos neu rywun mewn sefyllfa o bŵer sy’n eu cam-drin, efallai y byddant yn ofni’r canlyniadau neu na fydd neb yn eu credu.

Mae’r NSPCC (Saesneg yn unig) yn amlinellu ymddygiad normal ar wahanol gamau plentyndod a llencyndod i’ch helpu i adnabod pan fydd rhywbeth o’i le.

Atal camdriniaeth plant

Mae diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth yn gyfrifoldeb pawb.

Os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, adroddwch eich pryderon ar unwaith (nid oes rhaid i chi adael eich enw). Peidiwch ag aros nes eich bod yn 100% sicr - gallai fod yn rhy hwyr. Gallai’ch galwad chi achub bywyd plentyn.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os yw’ch pryderon yn ymwneud â phlentyn oedran ysgol, gofynnwch am gael siarad ag athro/athrawes amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.

Mae gan weithwyr cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i unrhyw bryderon am blentyn neu berson ifanc dan 18 oed os byddant yn ymwybodol y gallant fod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mwy o wybodaeth

Mae Byw Heb Ofn yn wefan i Gymru gyfan sy’n darparu cyngor am gamdriniaeth, sut i’w hadnabod ac at bwy i droi am gefnogaeth.

Mae Stop It Now! (Saesneg yn unig) yn cefnogi rhieni ac eraill i adnabod ac atal camdriniaeth rywiol plant.

Mae gan NSPCC Cymru (Saesneg yn unig) wybodaeth am amddiffyn plant. Ffoniwch: 0808 800 5000.

Mae Childline yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc o dan 19 oed. Ffoniwch: 0800 1111.

Diweddariad diwethaf: 21/12/2022