skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Esgeulustod neu esgeulustod emosiynol plentyn neu berson ifanc yw’r math mwyaf cyffredin o gamdriniaeth plant.

Mae esgeulustod – sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘rhianta gwael’ – yn digwydd pan fydd rhiant neu ofalwr yn methu â diwallu anghenion sylfaenol eu plentyn yn barhaus, gan osod iechyd, diogelwch corfforol a datblygiad emosiynol y plentyn mewn perygl.

Mae plentyn sy’n cael ei esgeuluso efallai’n cael ei adael yn eisiau bwyd neu mewn dillad brwnt neu annigonol. Efallai bod ei anghenion meddygol yn cael eu hanwybyddu, neu efallai ei fod yn cael ei roi mewn perygl neu heb ei amddiffyn rhag perygl neu niwed.

Efallai bod plentyn sy’n cael ei esgeuluso’n emosiynol yn cael ei anwybyddu, neb yn siarad ag ef neu’n cael ei amddifadu o gyfleoedd i ryngweithio â phlant eraill ac oedolion.

Pan fydd esgeulustod yn beth hirdymor a dwys, mae’n gallu arwain at farwolaeth y plentyn. Mae plant sy’n cael eu hesgeuluso yn debycach o farw mewn damweiniau, a gwyddom fod rhai wedi newynu i farwolaeth.

Mae gan esgeulustod plentyn ganlyniadau uniongyrchol a hirdymor am gyfleoedd bywyd y plentyn hwnnw.

Pa mor gyffredin yw esgeulustod?

Esgeulustod yw’r rheswm mwyaf cyffredin i blentyn gael ei osod ar gofrestr amddiffyn plant yng Nghymru.

Mae llawer o esgeulustod yn digwydd heb i neb sylwi, yn aml am ei fod mor anodd ei ganfod, h.y. esgeulustod yw canlyniad yr hyn mae rhieni’n PEIDIO â’i wneud yn hytrach na beth maent yn ei wneud.

Nid yw esgeulustod yn fwriadol bob tro. Mae rhianta gwael yn gallu digwydd pan nad oes gan y rhiant neu’r gofalwr y sgiliau ymarferol, deallusol neu emosiynol i edrych ar ôl eu plentyn yn briodol.

Mae plant sy’n cael eu hesgeuluso yn byw yn aml mewn cartrefi lle mae rhai ffactorau risg cydnabyddedig, e.e. camdriniaeth ddomestig, problemau iechyd meddwl ymhlith y rhieni, tlodi a thai gwael.

Mae plant sy’n cael eu hesgeuluso yn aml yn fictimau o fathau eraill o gamdriniaeth.

Adnabod arwyddion esgeulustod

Nid yw bob amser yn hawdd dweud a yw plentyn yn cael ei esgeuluso a bydd yr arwyddion/symptomau yn wahanol yn ôl ei oedran.

Mae’r NSPCC yn rhestru rhai arwyddion arwyddocaol sef:

  • dillad brwnt neu annigonol, e.e. dim côt yn y gaeaf
  • chwant bwyd cyson 
  • anafiadau damweiniol rheolaidd
  • brechau a brathiadau
  • blinder
  • methu â ffynnu, h.y. maent yn fach am eu hoedran
  • sgiliau iaith a chymdeithasol gwael
  • byw mewn amodau tai anaddas
  • gofalu am bobl eraill yn y teulu.

Am restr lawn, ewch i’r wefan (Saesneg yn unig). 

Nid yw’r un o’r arwyddion hyn ar ei phen ei hun yn golygu bod plentyn yn cael ei esgeuluso – efallai bod rhai yn gysylltiedig ag iechyd – ond os byddwch yn sylwi ar sawl un o’r arwyddion hyn, gallai awgrymu bod problem.

Beth i’w wneud os amheuwch fod plentyn yn cael ei esgeuluso

Cyfrifoldeb pawb yw diogelu plant - ac mae hynny’n cynnwys teulu estynedig y plentyn, ffrindiau a chymdogion a gweithwyr proffesiynol, e.e. athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig er mwyn atal yr esgeulustod rhag effeithio ar lesiant hirdymor y plentyn a’i gyfleoedd mewn bywyd.

Os amheuwch fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei esgeuluso – hyd yn oed os nad ydych 100% yn sicr – mae’n rhaid i chi adrodd eich pryderon ar unwaith (nid oes rhaid i chi roi’ch enw).

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Gallai’ch galwad achub bywyd plentyn.

Diweddariad diwethaf: 25/05/2018