Mae cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel - ac yn teimlo’n ddiogel - yn hanfodol er mwyn iddynt dyfu’n oedolion iach, hapus a chyfrifol sy’n gallu cyflawni eu potensial.
Pan fydd plant ifanc yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu caru, maent yn teimlo’n dda amdanynt eu hunain ac yn ffynnu. I’r gwrthwyneb, efallai na fydd plant sy’n cael eu magu mewn teuluoedd lle maent yn cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin erioed wedi gwybod y teimlad o fod yn ddiogel.
Yn aml bydd rhieni serchus yn mynd i hydoedd mawr i amddiffyn eu plant rhag perygl posibl a pheryglon yn y cartref. Ond, ymhen amser, mae angen mwy o ryddid ar blant ac mae’n rhaid iddynt fynd allan i’r byd ar eu pen eu hun. Nawr mae angen iddynt ddeall sut i gadw eu hunain yn ddiogel achos efallai na fydd eu rhieni o gwmpas.
Ystyr rhianta da yw dysgu i’ch plentyn sut i fod yn ddiogel mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd – ar y ffordd, ar ei feic ac ar-lein. Mae’n golygu siarad â nhw’n agored am risgiau posibl a’u helpu i adnabod ymddygiad camdriniol ac i osgoi bod yn ddioddefwr trosedd.
Siaradwch â nhw am ddieithriaid a sut i ddianc rhag sefyllfaoedd bygythiol; fodd bynnag, byddwch yn ofalus i beidio â’u drysu. Mae plant mewn mwy o berygl oddi wrth bobl maent yn eu hadnabod yn barod nag oddi wrth ddieithriaid.
Bydd dewis person ifanc o ran perthnasoedd, gan gynnwys ffrindiau a phartneriaid rhamantus, yn effeithio’n anochel ar ei ddiogelwch. Yn aml bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymddygiad cymryd risg fel secstio, yfed yn rhy ifanc a chymryd cyffuriau heb unrhyw reswm ac eithrio bod eu ffrindiau yn gwneud yr un peth.
Mae sicrhau bod plant yn aros yn ddiogel ar-lein yn bryder mawr arall. Gan fod y mwyafrif o bobl ifanc erbyn hyn yn mwynhau mynediad i’r rhyngrwyd drwy eu dyfeisiau symudol, mae wedi dod yn llawer mwy anodd i rieni gadw llygad ar eu gweithgareddau ar-lein nag yr oedd pan oedd un cyfrifiadur yn unig yn y cartref.
Mae cadw plant yn ddiogel er mwyn iddynt dyfu’n oedolion iach, hapus a chyfrifol yn agwedd bwysig ar hawliau plant. Mae hyn yn llawer haws pan fydd plant yn ifanc ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ar eu rhan gan oedolion. Wrth i blant dyfu’n hŷn, mae’n naturiol y byddant am wneud mwy o benderfyniadau drostynt eu hunain - ac yn aml herio penderfyniadau eu rhieni.
Mae hawliau plant yn helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel drwy sicrhau bod eu rhieni/gofalwyr ac oedolion eraill sydd yn eu bywydau yn gwrando ar leisiau plant, yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu.