skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae plant a phobl ifanc heddiw wedi tyfu i fyny gyda’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol.

Gan eu bod mor gyfarwydd â thechnoleg nid ydynt o reidrwydd yn meddwl am beryglon posibl rhannu gormod o wybodaeth a/neu ddelweddau ar-lein.

Efallai nad ydych mor gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol diweddaraf neu mor hyderus wrth lawrlwytho aps â’ch plentyn ond, fel rhiant, mae  gennych rôl allweddol yn eu cadw’n ddiogel ar-lein.

Daw rhai o beryglon cynhenid y rhyngrwyd gan bobl sydd â diddordeb rhywiol mewn plant a phobl ifanc sy’n defnyddio ystafelloedd sgwrsio a chyfryngau cymdeithasol i fynd yn agos atynt.  Yn anffodus, mae’r rhyngrwyd wedi ei gwneud yn haws i ddieithriaid fagu perthynas amhriodol â phlant fel hyn o bell.

Mae magu perthynas amhriodol ar-lein yn math o gamfanteisio’n rhywiol ar blant pan gaiff plant a phobl ifanc eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau o natur rywiol.

Mae’n gymharol hawdd monitro gweithgareddau ar-lein plant iau ond, wrth iddynt fynd yn hŷn a threulio mwy o amser yn eu hystafelloedd wely neu oddi cartref, mae’n dod yn llawer mwy anodd.

Mae’n berffaith normal i bobl ifanc wthio yn erbyn y ffiniau mae eu rhieni wedi eu gosod a chymryd rhan mewn ymddygiad cymryd risg. Un o ganlyniadau’r rhyngrwyd yw problem gynyddol yr hyn sy’n cael ei alw’n secstio.

Secstio yw pan fydd rhywun yn rhannu delweddau neu fideos rhywiol, noeth neu led-noeth o’u hunain neu bobl eraill, neu’n anfon negeseuon o natur rywiol amlwg. Efallai na fydd pobl ifanc yn sylweddoli ei bod yn anghyfreithlon meddu ar ddelwedd anweddus o blentyn dan 18 oed, hyd yn oed os eu cariad yw’r person arall.

Er bod bwlio yn broblem i blant a phobl ifanc ers tro byd, mae’r rhyngrwyd wedi cynnig dull arall i fwlïaid (neu ‘trols’) boenydio eu fictimau. Mae bod yn destun seiberfwlio yn brofiad truenus i rywun achos mae’n teimlo fel nad oes unrhyw ddianc rhag y bwli, hyd yn oed pan fyddant yn eu cartref.

Yn debyg i fwlio, mae’r rhyngrwyd wedi ei gwneud yn haws i gyflawnwyr troseddau casineb gyrraedd eu fictimau dydd a nos. Efallai y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dioddef galw enwau neu’n cael ei fwlio neu ei fygwth ar-lein oherwydd ei anabledd, hil, crefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Mae gan gyfryngau cymdeithasol rôl i’w chwarae mewn radicaleiddio rhai pobl ifanc hefyd.

Os amheuwch fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei fwlio,  ei fygwth neu hyd yn oed ei radicaleiddio ar-lein, siaradwch ag ef a chynigiwch eich cefnogaeth. Siaradwch â’i ysgol neu goleg os bydd angen.
 
Os amheuwch fod plentyn neu berson ifanc yn cael (neu wedi cael) ei gam-drin neu’n destun magu perthynas amhriodol, cysylltwch â Thîm Diogelu lleol eich cyngor neu ffoniwch yr heddlu ar 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Mae gan Internet Matters a Safer Internet UK gyngor am ddiogelwch ar-lein.

Mae Mencap wedi cynhyrchu arweiniad ar gyfer rhieni (Saesneg yn unig) sy’n poeni am gadw eu plant yn ddiogel ar-lein.

Diweddariad diwethaf: 19/12/2022