Mae chwilio am brofiadau newydd yn beth normal i bobl ifanc, hyd yn oed os bydd hyn weithiau’n golygu chwilio am wefr neu gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus.
Mae angen i bobl ifanc archwilio eu cyfyngiadau a’u galluoedd eu hun, ac yn aml mae fel pe baen nhw’n benderfynol o estyn y cyfyngiadau rydych chi’n eu gosod. Mae mynegi eu hunain fel unigolion yn rhan o’r llwybr tuag at ddod yn bobl ifanc annibynnol, hyderus.
Pam ydyn nhw’n ei wneud?
Nid yw’r rhannau o’r ymennydd sy’n ymdrin â chynllunio a rheoli cymhelliant yn aeddfedu tan tua 25 oed. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn fwy tebygol o wneud penderfyniadau byrbwyll heb ystyried y canlyniadau’n llawn.
Wrth gwrs, yn aml bydd pobl ifanc yn seilio eu penderfyniadau i gymryd rhan mewn ymddygiadau a gweithgareddau a allai o bosib fod yn beryglus ar bwysau oddi wrth gyfoedion ac awydd i ffitio i mewn i grŵp. Mae cymryd risgiau gan bobl yn eu harddegau yn dyblu pan fydd cyfoedion o gwmpas/yn cymryd rhan.
Ymddygiadau peryglus cyffredin
Er bod cymryd risgiau yn normal ymhlith pobl ifanc, mae’n naturiol i rieni boeni am rai ymddygiadau penodol gan gynnwys:
Cadw’ch plentyn yn ddiogel
Nid yw gwybod y bydd pobl ifanc bob amser yn rhoi prawf ar gyfyngiadau yn ei gwneud yn haws byw gydag ymddygiad peryglus a chwilio am wefr.
Os ydych chi’n poeni bod person ifanc yn cymryd risgiau anniogel, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu i’w cadw’n ddiogel a lleddfu’ch pryder eich hun.
Siaradwch am ymddygiad a chanlyniadau
Helpwch eich plentyn i ddysgu sut i bwyso a mesur faint o risg sydd ynghlwm wrth sefyllfaoedd gwahanol. Osgowch eu darlithio neu wahardd yr ymddygiad, gan y gall hynny gael yr effaith wrthgyferbyniol.
Creu rheolau i’w cytuno
Cytunwch ar rai rheolau sylfaenol gyda’ch gilydd - a thrafodwch ganlyniadau eu torri. Byddwch yn hyblyg ac addaswch y rheolau wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn ac yn barod am fwy o gyfrifoldeb.
Siaradwch am werthoedd
Bydd gwybod beth sy’n bwysig i’ch teulu yn helpu’ch plentyn i fagu cyfrifoldeb a gwerthoedd personol. Gallwch chi ategu gwerthoedd teuluol drwy fod yn enghraifft dda o ymddygiad eich hun.
Arhoswch yn agos a chadwch lygad ar bethau
Mae’n haws amddiffyn eich plentyn os ydych chi’n gwybod ble maen nhw. Gallai un o’ch rheolau fod eu bod yn rhoi gwybod i chi ble maen nhw’n mynd, gyda phwy a chytuno ar amser i fod gartref.
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y gall gysylltu â chi os yw’n teimlo’n anniogel neu dan bwysau ac na fyddwch yn ddig.
Aros mewn cysylltiad
Bydd cynnal perthynas agos yn helpu’r ddau ohonoch chi i oroesi blynyddoedd anodd yr arddegau ac yn helpu’ch plentyn i ymdrin â phwysau gan eu cyfoedion. Efallai y bydd yn dibynnu ar eich help chi i’w tynnu allan o ymddygiad peryglus posibl heb golli wyneb.
Rhwydweithiau cymdeithasol
Er nad yw’n syniad da dylanwadu gormod ar gylchoedd cyfeillion eich plentyn, gallwch chi eu hannog i greu cylch ehangach o ffrindiau, e.e. drwy gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill. Rhowch groeso i ffrindiau’ch plentyn yn eich cartref chi – bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddod i’w hadnabod hefyd.
Chwilio am wefr mewn ffordd ddiogel
Mae angen i bobl ifanc gymryd risgiau er mwyn dysgu mwy amdanyn nhw eu hunain a rhoi prawf ar eu galluoedd. Osgowch eu lapio mewn gwlân cotwm gan fod hynny’n debygol o gael yr effaith groes. Yn hytrach, sianelwch eu hegni i weithgareddau diogel ac adeiladol, e.e. gweithgareddau awyr agored, chwaraeon tîm. Caniatewch fwy o annibyniaeth a rhyddid i’ch plentyn mewn rhai pethau fel na fydd yn teimlo cymaint o awydd i wrthryfela.
Pryd i geisio cymorth
Nid yw’r mwyafrif o bobl ifanc yn cymryd chwilio am wefr i’r eithaf a gallai ymddygiad hunan-ddinistriol cyson fod yn arwydd o broblem ddyfnach. Siaradwch â’ch meddyg teulu. Byddan nhw’n penderfynu a oes angen cymorth proffesiynol ar eich plentyn am broblem iechyd meddwl gwaelodol ac yn gallu eu hatgyfeirio at y bobl gywir am driniaeth.
Mwy o wybodaeth
Mae Care for the Family (Saesneg yn unig) yn rhoi cyngor ynghylch magu plant o bob oedran.
Mae Childline (Saesneg yn unig) yn cefnogi a phobl ifanc. Ffôn: 0800 1111
Mae Family Lives yn darparu ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu a chymorth mewn argyfwng i deuluoedd.
Mae Parent Talk Cymru yn darparu cymorth rhianta dwyieithog, gan gynnwys erthyglau ar-lein a sgwrs un-i-un.