Nid oes dwywaith bod magu plant yn un o’r tasgau anoddaf yn y byd – yn ogystal â’r pwysicaf.
Mae rhianta da yn cael effaith fuddiol aruthrol ar fywyd plentyn, a hynny yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae plentyn sydd wedi cael ei fagu mewn amgylchedd serchus a diogel gyda phrofiadau plentyndod positif yn fwy tebygol o fynd yn oedolyn cyfrifol a bodlon ei hun ac yn rhiant gofalgar.
Efallai eich bod yn gofalu am faban newydd-anedig neu blentyn anabl, yn delio â phlentyn yn ei arddegau neu’n edrych ar ôl plentyn ffrind am ychydig o fisoedd.
P’un a ydych yn rhiant genedigol i’r plentyn neu wedi ei fabwysiadu, chi sy’n gyfrifol am lesiant a diogelwch eich plentyn nes iddo fynd yn oedolyn. Os ydych chi’n maethu, yr awdurdod lleol yw gwarcheidwad cyfreithiol y plentyn, ond chi fydd yn edrych ar ei ôl o ddydd i ddydd ac mae’n rhaid i chi roi blaenoriaeth i’w anghenion ef.
Mae pob rhiant yn dymuno’r gorau ar gyfer ei blentyn: i fwynhau ei wylio’n datblygu o faban bach yn blentyn hyderus sy’n mwynhau chwarae a gwrando arnoch yn darllen iddo, ac sy’n awyddus i ddysgu.
Mae cyfrifoldebau ynghlwm wrth fod yn rhiant neu’n ofalwr. Mae’r rhain yn cynnwys darparu cartref i’ch plentyn, ei gynnal yn ariannol a’i amddiffyn. Chi sy’n gyfrifol am edrych ar ôl ei anghenion iechyd a’i imiwneiddio, sicrhau ei fod yn derbyn addysg, ac am ei lesiant cyffredinol, gan gynnwys unrhyw weithgareddau hamdden.
Mater i bawb yw diogelu plant a phobl ifanc; fodd bynnag, mae rhieni mewn sefyllfa unigryw o ran eu hamddiffyn. Siaradwch â’ch plant am aros yn ddiogel ar-lein, yn y cartref, wrth gwrdd â dieithriaid ac ar y ffyrdd. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth i’w wneud os byddant yn cael eu bwlio a’u hannog i ddweud wrthych am unrhyw ymddygiad sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghysurus.
Mae magu plant yn gallu bod yn anodd ar adegau, yn arbennig os ydych yn dal i fod yn yr ysgol neu’r coleg eich hunan, neu mae’n rhaid i chi weithio ac angen dod o hyd i ofal plant.
Mae rhai rhieni’n wynebu heriau ychwanegol. Efallai eich bod yn anabl, yn sâl neu mae gennych gyfrifoldebau gofalu ychwanegol.
Os ydych yn rhiant ac rydych yn cael anawsterau am ba reswm bynnag, cofiwch fod cefnogaeth bob amser yn bodoli. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am fwy o wybodaeth.
Mae Parent Talk Cymru yn darparu cymorth rhianta dwyieithog, gan gynnwys erthyglau ar-lein a sgwrs un-i-un.