Mae dechrau yn yr ysgol yn gam mawr i’ch plentyn ac mae’n normal i rai plant ddangos tipyn o bryder cyn iddyn nhw ymgartrefu. Cymerwch eich plentyn i weld eu hysgol newydd a chwrdd â’r athro neu athrawes cyn iddyn nhw ddechrau er mwyn iddyn nhw fod yn gyfarwydd â’r ddau ar eu diwrnod cyntaf.
Bydd plant yn setlo’n gynt ac yn barod i ddysgu’n gynt os byddwch chi’n dangos iddyn nhw fod gennych chi hyder yn eu hathro/hathrawes. Mae ymchwil wedi dangos bod plant sy’n barod i ddysgu wrth iddyn nhw ddechrau’r ysgol yn cyflawni canlyniadau uwch.
Gwneud yr ysgol yn llwyddiant
Dyma rai syniadau i helpu’ch plentyn i ymgartrefu yn ei ysgol newydd:
- Gosodwch drefn sefydledig i wneud pethau yn y bore a chadwch ati.
- Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn bwyta brecwast iach.
- Cyrhaeddwch yn brydlon fel na fydd eich plentyn yn colli’r cyflwyniad i dasgau.
- Anogwch eich plentyn i dynnu ymlaen â’r plant eraill.
- Anogwch eich plentyn i gymryd ei dro ac i rannu.
- Anogwch eich plentyn i fwynhau straeon ac i ganu amrediad o ganeuon a rhigymau.
- Pennwch drefn dda am amser gwely fel bod eich plentyn wedi gorffwys ac yn barod am y diwrnod ysgol.
Paratoi am annibyniaeth
Byddwch chi’n helpu’ch plentyn a’r ysgol fel ei gilydd os anogwch eich plentyn i fod mor annibynnol mewn rhai sgiliau bywyd â phosibl. Yn ddelfrydol, erbyn dechrau mynychu’r ysgol dylai allu:
- defnyddio cyllell, fforc a llwy
- defnyddio cwpan yn annibynnol
- ymgeisio i wisgo ar ei ben ei hun
- ymgeisio i wisgo ei esgidiau
- mynd i’r toiled ar ei ben ei hun a golchi ei ddwylo
Bydd plant sy’n dechrau’r ysgol heddiw yn dysgu mewn amgylchedd sydd wedi ei osod i ddysgu sgiliau drwy weithgareddau ymarferol a chwarae. Byddan nhw’n dysgu yn yr amgylched dan do ac awyr agored. Mae’n bosib y bydd angen dillad awyr agored am rai gweithgareddau, fel het haul neu got gynnes ac mae’n bosib y bydd adegau pan fyddan nhw’n mynd yn frwnt neu’n flêr felly byddwch yn barod!