Mae arbenigwyr plant yn cytuno bod darllen gyda’ch baban neu’ch plentyn ifanc yn bwysig iawn i’w ddatblygiad cynnar.
Bydd yr amser arbennig, hamddenol a dreuliwch yn darllen - neu dim ond yn edrych ar lyfrau - gyda’ch gilydd yn eich helpu i fagu perthynas rhiant-plentyn agos yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol eich plentyn.
Ar ben hynny, mae darllen yn allweddol i ddysgu. Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod plant sy’n mwynhau darllen yn gwneud yn well yn yr ysgol ym mhob pwnc.
Pam mae darllen i blentyn ifanc yn bwysig
Bydd meithrin cariad eich plentyn at ddarllen a llyfrau yn helpu ei ddatblygiad mewn sawl ffordd:
- Mae darllen i blant o oedran ifanc yn eu gwneud yn gyfarwydd ag iaith, geiriau a seiniau.
- Mae storïau yn gallu helpu plentyn ifanc i ddeall digwyddiadau ac emosiynau mewn bywyd ‘go iawn’, e.e. marwolaeth yn y teulu, mynd i’r ysgol.
- Mae storïau a darluniau yn helpu i sbarduno dychymyg plentyn ac yn annog ei chwilfrydedd.
- Bydd edrych ar y geiriau mewn llyfr yn helpu plant i ddatblygu sgiliau llythrennedd cynnar.
- Mae storïau yn helpu plentyn i ddeall y gwahaniaeth rhwng realiti a phethau ‘gwneud’.
- Bydd cariad a pharch cynnar am lyfrau yn aros gyda’ch plentyn trwy gydol ei fywyd.
Setlo i lawr i ddarllen
Nid oes rhaid i adrodd stori ddigwydd yn union cyn gwely bob tro. Dewch o hyd i rywle tawel heb unrhyw ymyriadau a diffoddwch y teledu a’ch ffôn. Eisteddwch yn agos at eich plentyn ac, os yw’n ddigon hen, gofynnwch iddo ddewis y llyfr a throi’r tudalennau.
Pan fydd plentyn yn gyfarwydd â stori, anogwch ef i ddweud y stori wrthych chi wrth i chi edrych ar y lluniau gyda’ch gilydd. Yn dibynnu ar oedran eich plentyn, gallech chi drafod y stori gydag ef wedyn a siarad am y cymeriadau, beth maent yn ei wneud a’u hemosiynau.
Llyfrgelloedd lleol
Er bod nifer y llyfrgelloedd cyhoeddus wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, mae llyfrgell yn y mwyafrif o drefi gweddol fawr o hyd (ac weithiau sawl un). Darganfyddwch ble mae eich llyfrgell agosaf a mwy am wasanaethau llyfrgell eraill yng Nghymru yma.
Mae llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ac nid yw’r mwyafrif yn codi tâl ar bobl dan 16 oed am ddychwelyd llyfrau’n hwyr.
Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, mae’n bosibl bod llyfrgell symudol sy’n stopio yn eich ymyl chi. Bydd angen i chi fod yn aelod i fenthyca llyfrau.
Gwiriwch wefan eich cyngor lleol.
Mae llawer o lyfrgelloedd yn cynnal sesiynau adrodd storïau yn ystod gwyliau ysgol. Os ydych chi’n chwilio am awgrymiadau ar sut i adrodd hanes yn afaelgar, beth am fynd draw i ddysgu oddi wrth yr arbenigwyr?
Llyfrgelloedd Cymru
Mae Fy llyfrgell ddigidol yn llawn e-lyfrau, e-gylchgronau a llyfrau awdio. Nid oes unrhyw dâl am fenthyca, mae ond angen i chi ymuno â’r llyfrgell.
Os ydych chi’n brin o syniadau, bydd Who Next ...? yn eich helpu i ddewis llyfr nesaf eich plentyn ar sail awduron mae’n eu hoffi’n barod.
BookTrust Cymru
Mae BookTrust Cymru yn rhoi pecynnau Dechrau Da am ddim i bob babi sy’n cael ei eni yng Nghymru ac yn cynnig pecynnau llyfrau pellach ar gyfnodau allweddol cyn ysgol, yn ogystal â phecynnau i blant ag anghenion ychwanegol, awgrymiadau ac arweiniad ar ddarllen gyda’ch gilydd, adnoddau, gweithgareddau, a llawer mwy.