Datblygiad plant yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio twf gwybyddol, emosiynol, corfforol, cymdeithasol ac addysgol plentyn o’r eiliad y caiff ei eni drwodd i’r glasoed.
(Mae datblygiad gwybyddol yn cyfeirio at ddealltwriaeth a gwybodaeth raddol plentyn o’r byd trwy feddwl, profiad a’r synhwyrau.)
Mae’r blynyddoedd cynnar (0-5) yn arbennig o bwysig i ddatblygiad plentyn. Mae plant ifanc yn ffynnu mewn amgylcheddau cariadus a diogel, gyda rhieni ymatebol sy’n siarad, yn darllen ac yn chwarae gyda nhw.
Cerrig milltir datblygiadol
Mae babanod yn datblygu’n gyflym iawn yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf ac fel arfer yn cyrraedd rhai cerrig milltir penodol – codi pethau, eistedd i fyny a dweud geiriau sengl – ar yr un oedran yn fras.
Ymwelwyr iechyd sy’n gyfrifol am asesu datblygiad cynnar plentyn gan ddefnyddio rhai cerrig milltir penodol i wirio a yw baban neu blentyn ifanc yn datblygu ar gyfradd normal. Nid yw’r rhain yn gadarn a diwyro – mae rhai plant yn cerdded ac yn siarad yn gynharach nag eraill – ond maent yn helpu i amlygu unrhyw broblemau datblygiad yn gynnar.
Mae Magu plant. Rhowch amser iddo yn amlinellu beth ddylech ddisgwyl i’ch plentyn fod yn ei wneud ar rai adegau penodol:
Bydd eich ymwelydd iechyd yn asesu datblygiad eich plentyn ar gamau rheolaidd: adeg ei eni, ar 6-8 wythnos, un flwyddyn ac yna rhwng dwy a dwy-a-hanner flwydd oed.
Iaith a lleferydd
Mae datblygu sgiliau iaith a lleferydd yn hanfodol er mwyn i blentyn gyrraedd ei botensial llawn. Mae angen iddynt allu cyfathrebu er mwyn gallu dysgu yn yr ysgol, cymdeithasu â’r teulu a chwarae gyda ffrindiau.
Gall y mwyafrif o blant bach ddweud o leiaf chwe gair erbyn 18 mis oed a rhyw 50 erbyn dwy flwydd oed; fodd bynnag, gall hyn amrywio cryn dipyn ac fel arfer bydd siaradwyr araf yn dal i fyny.
Gallwch chi helpu’ch plentyn i ddysgu siarad drwy siarad â nhw o’i enedigaeth, chwarae gyda nhw a darllen iddynt.
Efallai y bydd rhai plant yn cael anhawster wrth siarad neu hyd yn oed ddeall iaith. Weithiau bydd sgiliau iaith plentyn yn cael eu gohirio oherwydd cyflwr meddygol heb ei ganfod neu anabledd dysgu. Efallai y bydd eraill yn cael anhawster gyda rhai seiniau lleferydd. Mae gan nifer o blant gyflyrau corfforol sy’n golygu eu bod yn methu’n gorfforol â siarad.
Mae timau Dechrau’n Deg yn cynnwys therapyddion iaith a lleferydd. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i ddarganfod a ydych chi mewn ardal Dechrau’n Deg.
Mae gan Talking Point I Can (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth i rieni i gefnogi sgiliau iaith a lleferydd eu plentyn, gan gynnwys gwasanaeth ymholiadau ar gyfer rhieni.
Oedi datblygiadol
Mae rhai plant yn datblygu’n arafach nag eraill yr un oedran e.e. babanod sy’n cael eu geni cyn pryd neu sy’n sâl iawn. Gall plant sydd wedi bod yn sâl iawn hyd yn oed atchwelyd dros dro, er y byddant fel arfer yn adennill y tir hwnnw ar ôl iddynt wella.
Yn aml bydd plant yn fwy datblygedig mewn un maes, e.e. sgiliau iaith, ar yr un pryd â bod yn arafach i wneud pethau eraill, e.e. cerdded. Nid yw’n anghyffredin i ddatblygiad plentyn arafu ar ôl i frawd neu chwaer newydd gyrraedd.
Gall datblygiad gohiriedig – neu ohiriad mewn un maes datblygiad penodol, e.e. sgiliau siarad neu sgliau corfforol – fod yn arwydd gyntaf bod gan eich plentyn gyflwr meddygol sylfaenol felly mae’n bwysig trafod unrhyw bryderon sydd gennych â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.
Y glasoed
Mae plant yn cyrraedd y glasoed ar oedrannau gwahanol hefyd. Yr oedran cyfartalog yw 11 i ferched a 12 i fechgyn, ond mae’n gallu dechrau mor ifanc ag wyth (merched) neu naw (bechgyn). Bydd y mwyafrif o bobl ifanc wedi dechrau’r glasoed erbyn 14 oed.
Os yw’ch plentyn yn dechrau’r glasoed cyn neu ar ôl yr ystod oedran hon, mae bob amser yn ddoeth gofyn am gyngor oddi wrth eich meddyg teulu a fydd yn gallu trefnu profion i sicrhau nad oes unrhyw broblem feddygol.
Mwy o wybodaeth
Mae gan Magu plant. Rhowch amser iddo awgrymiadau i’ch helpu i gefnogi datblygiad eich plentyn yn ystod ei bum mlynedd gyntaf.
Mae Dechrau’n Deg Cymru wedi llunio pecynnau yn Gymraeg a Saesneg i helpu rhieni i siarad â’u plant ifanc.