skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Roedd adeg pa na fyddai neb yn mynd i weld y meddyg teulu oni bai eu bod yn teimlo wir yn sâl.

Yn ffodus, mae’r adegau hynny wedi newid ac erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd meddygon teulu yn rhoi cymaint o egni i mewn i gadw eu cleifion yn ffit ac yn iach ag y maen nhw i drin y rhai sy’n sâl.

Mae gwasanaethau iechyd a llesiant yn amrywio o feddygfa i feddygfa ond byddan nhw o bosibl yn cynnwys:

Wyddoch chi byth pryd fydd angen eich meddyg teulu arnoch chi felly hyd yn oed os ydych chi mewn iechyd penigamp ar hyn o bryd, mae bob amser yn syniad da cofrestru gyda meddygfa leol.

I ddod o hyd i feddygfa yn eich ardal chi, ewch i GIG 111 Cymru.

Mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd yn gweithio’n agos gyda’u fferyllfa agosaf i’w gwneud yn haws i gleifion sydd angen presgripsiynau ac ati.

Gwnewch yn siŵr bod eich meddyg teulu yn gwybod eich bod chi’n ofalwr

Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun, gofynnwch i feddygfa’ch meddyg teulu wneud nodyn o hyn yn eich cofnodion meddygol er mwyn i’ch meddyg gael eich cefnogi, er enghraifft, cynnal ymweliadau cartref.

Diweddariad diwethaf: 29/03/2023