skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Hyd yn oed pan na does gennych chi unrhyw broblemau penodol, mae bob amser yn syniad da cadw llygaid ar eich iechyd.

Mae gwiriadau iechyd rheolaidd – gan gynnwys pwysedd gwaed, profion llygaid ac archwiliadau deintyddol – yn bwysig am y gallan nhw nodi problemau’n gynnar pan maent yn haws eu trin ac mae’r canlyniadau’n debycach o fod yn well.

Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd

Cadwch lygad allan am ymgyrchoedd/digwyddiadau ymwybyddiaeth iechyd fel Mis Strôc (Mai) (Saesneg yn unig), Wythnos y Gofalwyr (Mehefin) (Saesneg yn unig), Wythnos Iechyd Dynion (Mehefin) (Saesneg yn unig), Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn (misoedd y gaeaf) (Saesneg yn unig) ac Wythnos Nabod Eich Rhifau (Medi) (Saesneg yn unig) a fydd efallai’n cynnig gwiriadau iechyd rhad ac am ddim mewn mannau cymunedol.

Rheoli’ch cyflwr hirdymor

Os oes gennych chi gyflwr hirdymor mae’n bwysig iawn i chi fynychu’ch holl apwyntiadau a drefnir gyda’ch meddyg teulu a’r ysbyty er mwyn i unrhyw ddirywiad (neu welliant) yn eich cyflwr gael ei nodi a’ch meddyginiaeth/triniaeth gael eu newid os oes angen.

Rhaglenni sgrinio

Mae rhai sgriniadau iechyd yn cael eu cynnig dim ond i bobl o oedran, rhywedd a dull o fyw penodol, neu i’r sawl sydd â hanes o afiechyd penodol yn eich teulu, er enghraifft sgrinio’r fron yn gynnar i fenywod lle mae digwyddiadau mynych o ganser y fron yn y teulu.

Mae Bron Brawf Cymru yn gwahodd benywod rhwng 50 a 70 oed i gael eu sgrinio bob tair blynedd mewn lleoliadau ledled Cymru. Gallwch chi ddewis cael eich sgrinio ar ôl 70 oed; ond ame’n bosib y bydd angen i chi wneud apwyntiad.

Os ydych chi’n fenyw rhwng 25 a 64 oed, bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn ysgrifennu atoch chi bob tair blynedd (neu bum mlynedd ar ôl i chi gyrraedd 50 oed), yn eich gwahodd chi i drefnu prawf ceg y groth ym meddygfa’ch meddyg teulu.

Mae Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru yn cael ei chynnig i ddynion dros 65 oed.

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn cynnig pecynnau profi cartref i bobl yng Nghymru rhwng 58 a 74 oed pob dwy flynedd. Bydd pecynnau’n cael eu hanfon allan yn y post.

Aros yn iach fel gofalwr

Mae’n hawdd esgeuluso’ch iechyd eich hun pan fyddwch chi’n edrych ar ôl rhywun arall. Gofynnwch i’ch meddyg teulu roi nodyn yn eich cofnodion i ddweud eich bod chi’n ofalwr a mynnwch fynd i’ch apwyntiadau a’ch gwiriadau iechyd eich hun bob tro (trefnwch seibiant os oes angen).

Cwrs chwe wythnos am ddim yw Looking After Me (dwy awr a hanner yr wythnos) i annog gofalwyr i gydnabod eu hanghenion iechyd eu hun.

Cyrraedd apwyntiadau

Mae'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng yn mynd â phobl gymwys i ac o apwyntiadau cleifion allanol mewn clinigau, ysbytai a chanolfannau dydd.

Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf, efallai y dymunwch chi drefnu cludiant cymunedol, defnyddio cludiant lleol neu archebu tacsi.

Edrych ar ôl eich dannedd

Mae ychydig o bwynt edrych ar ôl gweddill eich corff os ydych chi’n esgeuluso’ch dannedd a’ch ceg. Gall hylendid deintyddol gwael arwain at bydredd dannedd, heintiad ac, yn y pen draw colli dannedd. Hefyd gall deintyddion sylwi ar broblemau iechyd eraill, gan gynnwys canserau’r geg. 

Nid yw triniaeth ddeintyddol yn rhad ac am ddim i bawb; ond nid oes rhaid i rai pobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol dalu. Mae gwiriad yn costio £14.70 (GIG, 2022) a’r tâl mwyaf am driniaeth yw £203 am gwrs o driniaeth (GIG, 2022).

I gael rhagor o wybodaeth am daliadau ac eithriadau deintyddol ewch i llyw.cymru.

Mae rhai deintyddion yn gwneud gwaith GIG yn unig, rhai yn gwneud gwaith preifat yn unig  a rhai’n gwneud cymysgedd o waith GIG a phreifat. Ewch i GIG 111 Cymru i ddod o hyd i ddeintydd.

Eich golwg

Os ydych chi’n treulio llawer o amser ar gyfrifiadur, yn ei chael yn anodd darllen mewn goleuadau neu’n methu darllen arwydd gerllaw, mae angen prawf llygaid arnoch chi. Os ydych chi’n gweithio sbectol yn barod, mynnwch brawf arall i’ch llygaid o leiaf bob dwy flynedd.

Nid yw profion llygaid arferol yn rhad ac am ddim i bawb; ond nid oes unrhyw dâl i rai pobl (gan gynnwys pobl dros 60 oed a’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau penodol). Fel arfer mae profion llygaid brys yn ddi-dâl.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i llyw.cymru.

Ewch i GIG 111 Cymru i ddod o hyd i optegydd.

Colli clyw

Os ydych chi’n cael problemau clyw, dwedwch wrth eich meddyg teulu. Byddant yn gwirio a oes gennych chi groniad cwyr (ac efallai trefnu i chi gael eich clustiau wedi eu chwistrellu). Os nad cwyr yw’r broblem, cewch eich cyfeirio at arbenigwr i ddod o hyd i achos eich colled clyw. Os bydd angen teclyn cymorth clyw arnoch chi, chi biau’r dewis cael un yn rhad ac am ddim oddi wrth y GIG, neu dalu am un eich hun.

 

Diweddariad diwethaf: 04/04/2023