Mae gofalu am rywun yn gallu bod yn llafurus, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly nid yw’n syndod bod y mwyafrif o ofalwyr yn mwynhau’r seibiant byr achlysurol o’u rôl gofalu.
Bydd seibiant byr yn eich galluogi i gael amser i’ch hunan ar yr un pryd â gwybod bod y sawl rydych chi’n gofalu amdanynt yn derbyn gofal da gan rywun arall. Bydd y seibiant hwn efallai am ychydig o oriau yr wythnos, ychydig o ddyddiau y mis, neu’n fwy. Y syniad yw rhoi cyfle i chi ymlacio a chael hoe haeddiannol o’ch dyletswyddau gofalu.
Weithiau mae seibiannau byr yn cael eu galw’n ‘ofal seibiant’.
Os nad oes gennych chi deulu neu ffrindiau a all helpu, y cam cyntaf i gael cefnogaeth – a seibiant byr – yw gofyn i’ch cyngor lleol am asesiad o anghenion gofalwr. Bydd y math o gymorth a gewch hefyd yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Mathau o seibiant byr
Mae gwahanol fathau o seibiannau byr. Bydd hyd ac amlder eich seibiannau byr yn amrywio yn dibynnu ar eich anghenion cymorth a’r hyn rydych chi’n dymuno ei wneud yn yr amser sydd ar gael.
Efallai eich bod yn ffafrio seibiannau byr rheolaidd, ychydig o oriau ar y tro o bosib neu dros nos unwaith yr wythnos; neu, efallai yr hoffech chi gael pythefnos i ffwrdd o’ch rôl gofalu i fynd ar wyliau. Nid oes angen yr un lefel o gymorth ar bawb.
Cymorth i’r sawl sy’n derbyn gofal
Syniad seibiant byr yw i chi ymlacio gan wybod bod y sawl rydych chi’n gofalu amdanynt yn derbyn gofal da.
Bydd y ddarpariaeth gofal hon yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion yr unigolyn sy’n derbyn gofal a hyd eich seibiant byr. Mae’n gallu cynnwys:
- rhywun yn gofalu am neu’n ‘eistedd gyda’r’ unigolyn yn eu cartref nhw, gan gynnwys dros nos
- cefnogi’r unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau dydd neu’n mynd i glwb cinio rheolaidd
- arhosiad dros dro mewn gofal preswyl neu gynllun gofal ychwanegol (neu hosbis os yw’n briodol)
- arhosiad dros dro mewn cynllun lleoliadau oedolion
- yr unigolyn sy’n derbyn gofal yn mynd ar wyliau lle caiff eu hanghenion gofal eu cefnogi
Seibiannau byr i ofalwyr plant anabl
Os ydych chi’n gofalu am blentyn anabl, mae gennych chi’r hawl gyfreithiol i seibiant o’ch gofalu o dan Reoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru).
Erbyn hyn mae’n rhaid i gynghorau lleol roi datganiad am eu gwasanaethau seibiannau byr i rieni plant anabl gan nodi pa fathau o seibiannau byr sydd ar gael, e.e. eistedd yn y cartref, seibiant gan ofalwyr maeth, ac yn y blaen.
Seibiannau ar gyfer gofalwyr ifanc
Mae angen seibiannau rhag eu hymrwymiadau gofalu ar ofalwyr ifanc hefyd. Mae prosiectau ar gyfer gofalwyr ifanc ledled Cymru sy’n trefnu gweithgareddau hamdden, gwibdeithiau a hyd yn oed gwyliau i ofalwyr ifanc.
Taliadau uniongyrchol ar gyfer seibiannau byr
Fel gofalwr, mae gennych chi’r hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol am eich anghenion cymorth eich hunan. Gallwch chi ddefnyddio’r arian hwn wedyn i wneud eich trefniadau eich hun am seibiant byr o’ch rôl gofalu pan fyddwch chi ei angen.
Mae gan Carers UK (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth am seibiannau byr ar gyfer gofalwyr.
Talu am seibiant byr
Mae sut y byddwch yn talu am seibiant byr yn dibynnu ar y math o seibiant sydd ei angen ar y person y gofelir amdano a'i sefyllfa ariannol bersonol. Os oes tâl, yna mae’n rhaid i’r cyngor lleol ddilyn canllawiau ariannol ynghylch sut mae incwm a chyfalaf y person sy’n derbyn gofal yn cael eu hystyried.