skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae angen hoe ar bawb o bryd i’w gilydd: y cyfle i ymlacio a dianc rhag trefniadau arferol bob dydd. Yn aml mae newid golygfa yn ddigon i wneud i chi deimlo’n llawer hapusach ac yn fwy optimistaidd am fywyd.

Os oes angen gofal a chymorth arnoch chi, neu os ydych chi’n gofalu am rywun felly, efallai bod y syniad o gymryd gwyliau neu hyd yn oed penwythnos i ffwrdd yn swnio’n amhosib, yn arbennig os ydych chi’n bwriadu mynd â nhw gyda chi.

Mynd ar wyliau

Cyn i chi ddiystyru mynd ar wyliau, byddwch yn ymwybodol bod digon o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys cyrff sy’n gallu’ch cynghori am deithio a llety hygyrch, gan gynnwys teithio tramor.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu na ddylai pobl anabl ddod ar draws gwahaniaethu uniongyrchol nac anuniongyrchol mewn llefydd fel meysydd awyr a gorsafoedd rheilffordd. Hefyd mae’n rhaid i ddarparwyr cludiant sicrhau bod eu gwybodaeth a’u gwasanaethau’n hygyrch, e.e. os gadewch i’r cwmni trenau wybod ymlaen llaw, byddant yn trefnu i borthor helpu rhywun mewn cadair olwyn yn yr orsaf.

Mae’r elusen i ddefnyddwyr Rica (Saesneg yn unig) yn cynghori pobl hŷn a phobl anabl sydd angen gofal a chymorth wrth deithio i gynllunio a pharatoi cyn cychwyn ar wyliau neu daith. 

Hoe rhag gofalu

Wrth gwrs, nid yw cymryd hoe o reidrwydd yn golygu mynd i ffwrdd ar wyliau. Os ydych chi’n gofalu am rywun, efallai mai egwyl fer yn unig sydd ei angen arnoch chi i ailwefru’ch batrïau er mwyn i chi barhau yn eich rôl ofalu - rhywbeth sydd weithiau’n cael ei alw’n ofal seibiant.

Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, mae’n werth cysylltu â’ch cyngor lleol (Saesneg yn unig) a gofyn am asesiad gofalwr. Bydd gweithiwr cymdeithasol yn asesu’ch anghenion chi (ac anghenion yr unigolyn rydych yn edrych ar ei ôl os na fydd hynny wedi digwydd o’r blaen) ac efallai y bydd yn gallu trefnu gofal dros nos neu efallai cyfnod gofal hwy, er enghraifft wythnos mewn lleoliad preswyl, i adael i chi fwynhau egwyl rhag eich cyfrifoldebau gofalu.

Diweddariad diwethaf: 04/04/2023