Mae deddfwriaeth wrth-wahaniaethol yn golygu os ydych chi’n dymuno teithio, gallwch chi wneud hynny nawr, hyd yn oed os oes gennych chi anableddau symudedd, synhwyraidd neu anableddau eraill.
Rhaid i ddarparwyr cludiant ddileu rhwystrau posibl a gwneud addasiadau rhesymol a / neu ddarparu cymorth ychwanegol pan fyddwch chi ei angen. Mae hyn yn cynnwys darparu cymhorthion ychwanegol fel cadeiriau olwyn, rampiau cludadwy, dolenni sain ac arwyddion mawr, Braille a gwasanaethau sain. Dylai toiledau fod yn hygyrch hefyd.
Mae’r Cyngor Teithio i Bobl Anabl (Saesneg yn unig) yn gallu helpu os ydych chi’n teithio’n lleol neu ymhellach i ffwrdd, e.e. hedfan tramor, cynllunio mordaith neu’n mynd â’ch car i Ewrop.
Cymorth ar eich taith
P’un a ydych chi’n bwriadu teithio ar goets, trên, fferi neu awyren, dylech chi roi gwybod i’ch darparwr cludiant mewn da bryd bod angen cymorth arnoch chi, yn ddelfrydol wrth i chi fwcio. Cyrhaeddwch mewn digon o amser a rhowch wybod i’r staff eich bod wedi bwcio cymorth.
Defnyddiwch Traveline Cymru i gynllunio teithiau yn y Deyrnas Unedig a dewch o hyd i wybodaeth i deithwyr anabl.
Coets
Mae gan National Express (Saesneg yn unig) goetsys hygyrch newydd sy’n gallu cludo cadeiriau olwyn sy’n symud â llaw, sgwteri symudedd a sgwteri sy’n cael eu pweru. Rhowch 36 awr o rybudd cyn i chi deithio os oes angen cymorth arnoch chi.
Mae bysiau Stagecoach a Megabus (Saesneg yn unig) yn gwbl hygyrch a bydd gyrwyr yn helpu teithwyr anabl a theithwyr hŷn. Gall cadeiriau olwyn a sgwteri gael eu cludo.
Trên
Mae Trafnidiaeth i Gymru yn darparu cyngor a / neu gymorth i bob teithiwr sy'n archebu teithiau trên. Mae sgwrs fyw ar gael ar WhatsApp a Twitter.
Awyr
Mae cyfleusterau ar awyrennau ac mewn gwahanol feysydd awyr yn amrywio ledled y byd, felly gwiriwch bob tro cyn bwcio’ch hediad. Os oes angen cymorth arnoch chi, rhowch o leiaf 48 awr o rybudd.
Caiff eich cadair olwyn ei storio yn y crombil.
Môr
Holwch y cwmni fferi neu gwmni mordeithiau ba long fydd yn fwyaf addas i’ch anghenion, e.e. efallai na fydd gan gychod llai o faint lifftiau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae Cyngor Teithio i Bobl Anabl (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor defnyddiol i ddefnyddwyr cadair olwyn sy’n bwriadu teithio ar fferi neu fynd ar fordaith.
Teithio gyda chi cymorth
Mae rheolau llym ynglŷn â theithio gyda chi cymorth (Saesneg yn unig).
Consesiynau a theithio am ddim
Mae llawer o ddarparwyr cludiant yn cynnig prisiau gostyngedig i deithwyr anabl a theithwyr hŷn.
Mae’r Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl (Saesneg yn unig) yn rhoi gostyngiad o hyd at draean ar brisiau tocyn i chi a’ch cydymaith.
Mae’r Cerdyn Rheilffordd i Bobl Oedrannus ar gyfer unrhyw un dros 60 oed, gan roi gostyngiadau tebyg. Cewch chi wneud cais ar-lein (mae angen pasbort neu drwydded yrru y DU ddilys arnoch chi) neu mewn gorsaf (cymerwch brawf o’ch oedran gyda chi).
Mae’n bosib bod gan bobl dros 60 oed a phobl anabl sy’n byw yng Nghymru hawl i deithio am ddim ar fysiau. Ni chewch ddefnyddio’ch tocyn teithio Cymru i deithio i Loegr neu o’i chwmpas.