skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r mwyafrif ohonom ni’n edrych ymlaen at ein gwyliau. Maen nhw’n chwalu rwtîn dyddiol ac yn rhoi rhywbeth i ni edrych ymlaen ato. Yn well byth, maen nhw’n rhoi’r cyfle i ni weld llefydd gwahanol, cwrdd â phobl newydd ac yn creu atgofion parhaus.

Mae hyd yn oed gwyliau byr – penwythnos i ffwrdd efallai mewn dinas gyfagos neu ar lan y môr – yn rhoi cyfle i ni fwynhau profiadau newydd, neu ddim ond ymlacio ac adfywio.

Teithio i bawb

Nid oedd hi bob amser yn hawdd mynd ar wyliau os oeddech chi’n anabl – ac o ganlyniad nid oedd llawer o bobl anabl yn trafferthu – ond mae deddfwriaeth cydraddoldebau yn golygu na ddylai pobl anabl wynebu gwahaniaethu ragor wrth deithio o fewn y Deyrnas Unedig neu yn yr Undeb Ewropeaidd.

Erbyn hyn mae cludiant cyhoeddus, llety gwyliau ac atyniadau twristiaeth yn fwy hygyrch nag erioed (ond os ydych chi’n teithio tu allan i’r DU, mae’n werth gwirio’r trefniadau mewn meysydd awyr a gwestai cyn i chi fynd).

Dysgwch fwy am deithio gydag anabledd yn www.gov.uk (Saesneg yn unig).

Cwmnïau teithio arbenigol

Hefyd mae digonedd o gyrff teithio arbenigol sy’n gallu cynnig cyngor am amrediad o anghenion penodol, o hygyrchedd i ddeiet arbennig, teithio tu allan i Ewrop a mordeithiau, er mwyn i chi gael cynllunio’ch gwyliau gyda hyder. 

Nid oes unrhyw angen teimlo’n ofidus am deithio ar eich pen eich hun chwaith. Mae llawer o gwmnïau gwyliau erbyn hyn yn darparu ar gyfer teithwyr unigol a byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd cyn bo hir.

Teithio gydag anabledd penodol

Erbyn hyn mae llawer o elusennau any yn cynnig cyngor am deithio gydag anabledd neu gyflwr penodol – Y Gymdeithas Strôc (Saesneg yn unig), RNIB (Saesneg yn unig) a Chymdeithas Alzheimer’s (Saesneg yn unig) yn eu plith.

Mynd â’ch ci cymorth

Mae’n anghyfreithlon i neb wrthod llety i chi am eich bod chi’n teithio gyda chi cymorth. Mae’n rhaid estyn yr un lefel o letygarwch i chi ag i westeion eraill a gwneud unrhyw addasiadau rhesymol mae eu hangen ar gyfer eich ci, er enghraifft, rhoi ystafell i chi sy’n agos at allanfa i’w gwneud yn haws i chi fynd â’ch ci tu allan.

Am fwy o wybodaeth am deithio gyda chi cymorth, ewch i gov.uk. (Saesneg yn unig)

Penderfynu ble i fynd

Mae gan Croeso Cymru, Visit England (Saesneg yn unig) a Visit Scotland (Saesneg yn unig) i gyd wybodaeth am lety hygyrch ar eu gwefannau.

Mae gan y Rough Guide to Accessible Travel (Saesneg yn unig) lawer o syniadau ar gyfer safleoedd twristiaeth hygyrch ledled y DU.

Mae AccessAble (Saesneg yn unig) hefyd yn eich helpu i weithio allan a yw lle yn mynd i fod yn hygyrch i chi drwy ddarparu arweiniadau mynediad ar-lein i westai, atyniadau twristiaeth, tirnodau hanesyddol, parciau, siopau a bwytai. 

Elusen yw Tourism for All (Saesneg yn unig) sy’n ymroi i wneud twristiaeth yn groesawgar i bawb, p’un ai gwesty neu wyliau hunan-arlwyno sydd mynd â’ch pryd. Mae’r holl lety wedi cael ei archwilio o dan y Cynllun Hygyrchedd Cenedlaethol (Saesneg yn unig).

Mae Euan's Guide (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth am fannau hygyrch i fynd ar draws y DU.

Gwefan am wyliau i bobl dros 50 oed yw Silver Travel Advisor (Saesneg yn unig). 

Os byddai’n well gennych chi wyliau ar y cefnforoedd, gall y Disabled Cruise Club (Saesneg yn unig) argymell y mordeithiau gorau ar gyfer eich anghenion penodol chi, e.e. pa longau sydd â chabanau sy’n addas i gadeiriau olwyn, ac ati. Mae’n bosibl trefnu gwibdeithiau, trosglwyddiadau a chymorth mewn porthladdoedd hefyd.

Parcio

Os oes gennych chi anghenion arbennig o ran parcio, gwiriwch (a chadwch le) mewn da bryd bob tro.

Bydd map y bathodyn glas (Saesneg yn unig) yn dangos i chi ble mae parcio ar gael i bobl anabl.

Diweddariad diwethaf: 20/04/2023