Mae cynllun y Bathodyn Glas yn cynnig amrediad o thollau (Saesneg yn unig) i bobl sydd â phroblemau symud difrifol, gan gynnwys parcio am ddim a’r gallu i barcio’n agosach at eich cyrchfan.
Mae Bathodyn Glas yn cael ei ddyfarnu i’r unigolyn, felly cewch wneud cais os ydych yn gyrru neu’n teithio mewn cerbyd.
Mae tri chategori i’r Bathodyn Glas sef:
- Awtomatig
- Dewisol
- Dros dro
Ni chodir unrhyw dâl am Fathodyn Glas; fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fodloni rhai meini prawf penodol yn dibynnu ar y categori rydych yn ymgeisio amdano.
Awtomatig
Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol rydych yn gymwys yn awtomatig i dderbyn Bathodyn Glas – mae’n rhaid i chi wneud cais i’ch cyngor lleol o hyd ond nid oes unrhyw angen am asesiad.
Rydych yn gymwys yn awtomatig hefyd os ydych wedi’ch cofrestru’n ddall neu os oes gennych nam difrifol ar eich golwg.
Mae cymhwyster awtomatig gan gyn-filwyr os ydynt yn derbyn budd-daliadau o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (Tariff 1-8), gan gynnwys Tariff 6 o dan Anhwylder Meddwl Parhaol.
Dewisol
Gallech chi neu’ch plentyn fod yn gymwys am Fathodyn Glas dewisol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Rydych chi neu blentyn sydd dros ddwy flwydd oed yn cael anhawster cerdded, e.e. mae angen cymhorthion cerdded neu ocsigen arnoch i gerdded pellter byr.
- Mae angen i blentyn dan dair oed deithio gydag offer meddygol swmpus neu mae’n rhaid iddo fod yn agos at gerbyd yn gyson er mwyn cael mynediad yn gyflym i driniaeth feddygol am ei gyflwr a all achub ei fywyd.
- Mae gennych chi nam gwybyddol difrifol, h.y. ni allwch gynllunio neu fynd ar daith heb gefnogaeth oddi wrth rywun arall.
- Mae gennych salwch terfynol sy’n cyfyngu’n ddifrifol ar eich symudedd.
- Mae gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich (dim ond os mai chi yw’r gyrrwr y cewch ddefnyddio’r maen prawf hwn).
Yn ystod y broses ymgeisio, gofynnir i chi roi tystiolaeth foddhaol o’r cyflwr neu’r salwch sy’n eich cymhwyso.
Dros dro
Os ydych yn gwella yn dilyn salwch neu anaf difrifol, neu’n aros am driniaeth amdano, cewch wneud cais am fathodyn dros dro 12-mis. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Toriadau cymhleth y goes sy’n cymryd ymhell dros flwyddyn i’w trin.
- Gosod cymalau newydd, e.e. clun, pen-glin, sy’n cyfyngu’n ddifrifol ar symudedd.
- Strôc ac anafiadau i’r pen neu’r cefn sy’n effeithio ar symudedd.
- Mynd drwy driniaeth feddygol e.e. am ganser, sy’n effeithio ar symudedd.
Byddwch yn cael eich asesu am Fathodyn Glas dros dro.
Bathodynnau sefydliadol
Gall sefydliadau sy’n cludo pobl anabl a fyddai’n gymwys yn unigol am Fathodyn Glas wneud cais am fathodyn sefydliadol.
Gwneud cais am Fathodyn Glas
I wneud cais am Fathodyn Glas (neu i adnewyddu un presennol) cysylltwch â’ch cyngor lleol neu gwnewch gais ar-lein (Saesneg yn unig) (bydd eich cais yn cael ei anfon at eich cyngor lleol i’w asesu).
Mae penderfyniad eich cyngor lleol yn derfynol – ni allwch apelio i Lywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am gymhwyster, lawrlwythwch Gwirio Cymhwyster i Fathodyn Glas neu cysylltwch â Gwasanaeth Gwella’r Bathodyn Glas (BBIS) ar 08444 630215.