Os ydych chi’n berson hŷn neu anabl, mae bod yn berchen ar gar yn gallu bod yn llinell fywyd, yn arbennig os oes angen i chi deithio ar gyfer gwaith, addysg neu apwyntiadau meddygol ac yn byw mewn ardal lle mae cludiant cyhoeddus yn wael. Nid oes unrhyw reswm pam na allwch chi yrru cyhyd ag y mae’n ddiogel. Os yw’ch anabledd yn ei gwneud yn anodd i chi yrru car safonol, gallech chi ystyried addasu cerbyd neu brynu car ag offer rheoli arbenigol.
Os ydych wedi dod yn anabl yn ddiweddar – neu os yw eich anabledd yn effeithio’n gynyddol ar eich galluoedd corfforol, synhwyraidd neu feddyliol – mae’n bwysig cael asesiad gyrru i’ch cadw chi a defnyddwyr eraill y ffordd yn ddiogel.
Os ydych chi’n bwriadu addasu car, dewiswch gwmni arbenigol i’ch cynghori am ba offer rheoli sy’n briodol i chi a’ch car.
Mae Disability Motoring (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor ar yrru gydag anabledd.
Os ydych chi’n anabl ac yn bodloni rhai meini prawf penodol, mae’n bosibl y byddwch chi’n gymwys hefyd i gael Bathodyn Glas.
Dysgu gyrru
Nid oes rhaid i anabledd fod yn rhwystr i ddysgu gyrru. Mae gan Hyfforddwyr Gyrru i’r Anabl (Saesneg yn unig) gronfa ddata o hyfforddwyr gyrru a fydd yn helpu pobl sydd ag anghenion arbennig ac anableddau corfforol i ddysgu gyrru. Hefyd mae cyngor ar gyfer gyrwyr hŷn a gwybodaeth am gael addasiadau i’ch car. Ffoniwch: 0844 800 7355.
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cynnig Cyrsiau Gloywi Gyrwyr Aeddfed. Cysylltwch â’ch swyddog diogelwch y ffordd lleol am fanylion.
Pan mae’n bryd rhoi’r gorau i yrru
Os ydych chi am barhau i yrru ond yn ansicr ydy hi’n ddiogel gwneud hynny, mynnwch asesiad o’ch sgiliau gyrru gan hyfforddwr gyrru proffesiynol. Mae’r Asesiad Gyrrwr Aeddfed (Saesneg yn unig) yn cymryd 60 munud a bydd yn eich helpu i wneud y penderfyniad anodd hwnnw. I gael gwybod mwy, cysylltwch â'r swyddog diogelwch ffyrdd yn eich ardal.
Gallwch ildio’ch trwydded yrru o’ch gwirfodd drwy lenwi datganiad (Saesneg yn unig) a’i anfon i’r DVLA. Rhaid i chi ailymgeisio (Saesneg yn unig) am drwydded newydd os byddwch chi’n dymuno gyrru eto ar ôl ildio’ch trwydded.
Adnewyddu trwydded yrru
Pan gyrhaeddwch 70 oed, mae’n rhaid i chi adnewyddu’ch trwydded yrru bob tair blynedd. Rhaid bod dim rheswm meddygol sy’n eich atal rhag gyrru a rhaid i chi fodloni rhai gofynion o ran eich golwg (Saesneg yn unig).
Cynllun Motability
Mae Motability (Saesneg yn unig) yn rhoi cyfle i rai pobl anabl sy’n derbyn budd-daliadau fod yn berchen ar gar newydd neu gerbyd sy’n hygyrch i gadair olwyn, sgwter neu gadair olwyn wedi ei phweru, neu i brydlesu un, am bris fforddiadwy.
Mae yswiriant, gwasanaethu a chynnal a chadw wedi eu cynnwys yn ogystal â chymorth cyflawn wrth dorri i lawr a threth gerbyd flynyddol.
Gall y cerbyd gael ei amnewid bob tair blynedd (pum mlynedd yn achos cerbydau sy’n hygyrch i gadair olwyn) a gall llawer o addasiadau gael eu gwneud heb unrhyw gost ychwanegol. Mae hyd at ddau yrrwr wedi eu henwi yn cael eu cynnwys yn eich prydles - sy’n gallu bod chi, ffrindiau, teulu neu ofalwyr (gall trydydd gyrrwr gael ei ychwanegu am gost ychwanegol).
Mae cymhwyster am y cynllun yn cael ei benderfynu yn ôl y budd-daliadau rydych chi’n eu derbyn (nid oes unrhyw derfyn oedran uchaf).
Mwy o wybodaeth
Disabled Motoring UK yw’r unig elusen sy’n cefnogi gyrwyr anabl, deiliaid Bathodynnau Glas a’u teithwyr yn benodol.
Mae'r elusen yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i aelodau llawn ar bob math o bynciau, gan gynnwys ffitrwydd i yrru, tocynnau parcio, darpariaeth parcio ac eithriadau treth cerbyd. Mae aelodaeth lawn yn costio £30 y flwyddyn (2022) ond rydych yn cyrchu erthyglau ar-lein, ac ati yn rhad ac am ddim.