Os ydych chi’n methu gyrru, neu wedi gwneud y penderfyniad i beidio â gyrru rhagor, mae’n debyg eich bod yn defnyddio cludiant cyhoeddus neu’n dibynnu ar ffrindiau a’r teulu i fynd â chi i apwyntiadau, teithiau siopa a diwrnodau allan.
Mae argaeledd a chost cludiant cyhoeddus yng Nghymru, a pha mor rheolaidd mae ef, yn dibynnu’n fawr iawn ar ble rydych yn byw. Er bod gwasanaethau bysiau yn gyffredinol yn weddol yn y dinasoedd a’r trefi mwy o faint, maent yn rhedeg yn llai aml mewn ardaloedd gwledig, ac weithiau dim ond unwaith neu ddwy yr wythnos (os o gwbl).
Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwybodaeth am amserlenni trenau a bysiau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am gansladau ac amhariad â gwasanaethau. Rhadffôn: 0800 464 0000.
Mae Cyngor Teithio i’r Anabl (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor i bobl ag amrediad o anableddau gwahanol sy’n bwriadu defnyddio amrywiol ffurfiau o gludiant cyhoeddus, e.e. dal trên fel ddefnyddiwr cadair olwyn.
Teithio am ddim ar fysiau
Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, yn anabl, neu os cawsoch eich anafu wrth wasanaethau gyda’r Lluoedd Arfog, ac yn byw yng Nghymru, mae’n bosibl bod gennych hawl i deithio am ddim ar fysiau o fewn Cymru a'r ffiniau. Rhaid i'ch prif gyfeiriad fod yng Nghymru.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar amser teithio, ac os ydych chi’n anabl, cewch chi ofyn am gerdyn cydymaith er mwyn i rywun gael teithio gyda chi ar deithiau bws.
Gwnewch gais i Trafnidiaeth Cymru am gerdyn teithio rhatach am ddim (bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys).
Mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau’n gyfyngedig, cewch chi ddefnyddio’ch cerdyn teithio bysiau ar rai llinellau trên. Am fwy o wybodaeth ewch i Trafnidiaeth Cymru.
Cludiant cymunedol
Mewn cymunedau lle nad oes unrhyw wasanaethau bws rheolaidd, mae elusennau a chyrff gwirfoddol wedi dod ynghyd i ddiwallu anghenion cludiant pobl leol.
Mae cludiant cymunedol yn cynnal llwybrau bysiau lleol i bobl sydd angen cyrraedd y gwaith, ysgol, apwyntiadau meddygol a hyd yn oed y siopau agosaf.
Chwiliwch am gludiant cymunedol yn eich ardal chi.
Tacsis a cherbydau hurio preifat
Mae llawer o bobl anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai ag anableddau anweladwy, yn dibynnu ar dacsis a cherbydau hurio preifat i fynd o gwmpas.
Ym mis Mehefin 2022, cyflwynwyd cyfraith i sicrhau bod pobl anabl yn cael cymorth i deithio gydag urddas a hyder – ac ni all cwmnïau tacsis na gyrwyr hurio preifat godi tâl ychwanegol arnynt. Rhaid i gynghorau hefyd ddynodi cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn eu fflyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gov.uk.