skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os ydy’ch problemau symud yn cyfyngu’n gryf ar eich gallu i fynd allan a symud o gwmpas, efallai ei bod hi’n bryd dechrau meddwl am gael gafael ar olwynion o ryw fath.

Mae pobl yn defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd am wahanol resymau ac nid o reidrwydd am eu bod nhw’n methu cerdded o gwbl.

Efallai eich bod yn gallu sefyll am gyfnodau byr yn unig, neu efallai eich bod yn dioddef pendro pan fyddwch chi’n sefyll. Efallai bod gennych chi broblemau symud mwy cyffredinol, e.e. rydych chi’n dioddef gydag arthritis sy’n gwneud cerdded yn boenus.

Hyd yn oed os gallwch chi gerdded o gwmpas gartref, mae’n bosib y teimlwch yn fwy hyderus yn defnyddio cadair olwyn neu sgwter symudedd pan fyddwch chi’n mentro allan.

Defnyddwyr tro cyntaf

Mae’r Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn (Saesneg yn unig) a gynhelir gan y GIG yn rhoi benthyg cadeiriau olwyn â llaw i bobl ag anabledd parhaol neu hir-dymor. Mae asesiadau’n cael eu cynnal ar gyfer cadeiriau olwyn arbenigol neu rai dan bŵer. Nid oes unrhyw dâl am fenthyg y cadair olwyn ond mae angen i chi gael eich atgyfeirio at y gwasanaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol, e.e. therapydd galwedigaethol neu feddyg.

Os byddai’n well gennych chi brynu neu hurio cadair olwyn neu sgwter symudedd eich hunan, mae’n bwysig cael cyngor proffesiynol am beth fyddai’n fwyaf addas i chi.

Mae'r Groes Goch (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor ar gadeiriau olwyn ac yn eich galluogi i roi cynnig ar/rhentu detholiad o gadeiriau olwyn a chymhorthion symudedd.

Cadeiriau olwyn â llaw

Y dewis rhataf fel arfer, mae’r rhain yn cael eu defnyddio’n aml gan bobl sy’n gallu sefyll ond sy’n methu cerdded am bellter mawr, ac yn cael eu defnyddio dros dro, e.e. os byddwch chi’n torri’ch coes.

Gall cadeiriau olwyn â llaw fod yn rhai rydych yn eu symud eich hun (gan gynnwys rhai ag un fraich) neu wedi eu dylunio i gael eu gwthio gan rywun arall. Mae’n hanfodol ystyried eich pwysau, maint ac unrhyw anghenion penodol eraill sydd gennych chi wrth benderfynu pa fodel i’w brynu neu ei logi.

Mae cadeiriau olwyn â llaw yn cael eu dylunio i gael eu plygu a’u trosglwyddo gan gerbyd felly gwnewch yn siŵr nad yw’r model a ddewiswch yn rhy drwm i’r gyrrwr/defnyddiwr ei chodi.

Cadeiriau olwyn modur

Fel arfer mae cadeiriau olwyn trydan a batri yn haws eu symud na rhai â llaw. Hefyd mae’r fantais nad oes arnoch chi angen rywun i’ch gwthio, hyd yn oed os ydych chi’n methu â symud y gadair eich hunan.

Mae cadeiriau olwyn bariatrig yn cael eu hadeiladu i cludo pobl hyd at 50 stôn.  

Mae gan Wheelfreedom (Saesneg yn unig) becynnau pŵer i hybu symudedd ar log sy’n gallu cael eu gosod ar gadeiriau olwyn â llaw a’u defnyddio gan weinydd i yrru rhywun hyd at 14 stôn (21 stôn gyda phecyn pŵer gwaith trwm).

Sgwteri symudedd

Gall sgwter symudedd fod yn fwy ymarferol os ydych chi’n dymuno mynd allan yn rheolaidd; ond mae angen i chi allu dringo i’r sgwter a disgyn ohono ar eich pen eich hun a theimlo’n hyderus yn llywio’ch hunan o gwmpas.

Mae llawer o fodelau ar gael, sy’n amrywio o fodelau Dosbarth 2 llai o faint sydd ond yn gallu cael eu defnyddio ar y palmant (oni bai nad oes unrhyw balmant) ac sy’n teithio ar gyflymder uchaf o bedair milltir yr awr, i sgwteri Dosbarth 3 llawer mwy o faint sy’n gallu teithio hyd at wyth milltir yr awr ar y ffordd.

Nid oes rhaid i chi gofrestru sgwteri Dosbarth 2 am dreth ffordd. Mae’n rhaid i sgwteri Dosbarth 3 gael eu cofrestru gyda’r DVLA (Saesneg yn unig) ond nid oes unrhyw dâl am drwydded. Mae yswiriant yn cael ei argymell (er nad yw’n orfodol).

Os ydych chi’n defnyddio sgwter modur am y tro cyntaf, neu os nad ydych chi wedi gyrru ar y ffordd ers tro, mae’n syniad da gofyn i rywun ddod allan gyda chi y tro cyntaf (neu os oes modd, cael tipyn o hyfforddiant. Cysylltwch â’ch swydog diogelwch y ffordd lleol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi).

Rhyddhad rhag TAW ar offer

Os oes gennych chi anhwylder hirdymor neu anabledd, mae’n bosibl y byddwch chi’n gymwys am ryddhad rhag TAW wrth i chi brynu cadair olwyn neu sgwter symudedd.

Motability

Cofiwch, mae Cynllun Motability (Saesneg yn unig) yn gallu cael ei ddefnyddio i brydlesu cadair olwyn â phŵer neu sgwter symudedd (yn ogystal â char). Rhaid eich bod chi’n derbyn rhai budd-daliadau penodol i fod yn gymwys a gallwch chi fod yn gymwys (Saesneg yn unig) os ydych chi dros 65 oed os oeddech chi’n hawlio rhai lwfansau anabledd cyn i chi gyrraedd yr oedran yma ac mae gennych chi o leiaf 12 mis ar ôl ar eich lwfans.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n gymwys, mae gwefan (Saesneg yn unig) Motability yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr a fydd yn eich helpu i wneud dewis gwybodus wrth brynu’ch cadair olwyn neu sgwter. 

Hefyd gallwch chi chwilio yn ôl cod post (Saesneg yn unig) am gwmnïau sy’n delio mewn cadeiriau olwyn â phŵer a sgwteri symudedd yn eich ardal chi.

Mwy o wybodaeth

Mae gan RICA (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth ar ei wefan am geir a sgwteri i bobl anabl, gan gynnwys rheolyddion ceir, cadeiriau olwyn pweredig, technegau ac ategolion ar gyfer mynd i mewn ac allan o gar, a cherbydau hygyrch i gadeiriau olwyn.

Diweddariad diwethaf: 20/04/2023